Wythnos gweithlu actif yn dod i Dde Powys

Wythnos gweithlu actif yn dod i Dde Powys

Rhwng 22 a 28 Ebrill rydym yn agor ein drysau ar draws ein canolfannau yn Ne Powys er mwyn i fusnesau a grwpiau lleol elwa o 7 diwrnod o ffitrwydd am ddim. Trwy gofrestru eich busnes AM DDIM, gall eich gweithwyr gael mynediad i amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys campfa a nofio, dosbarthiadau ffitrwydd a llawer mwy!

Gall cael gweithlu gweithgar helpu i wella lles corfforol a meddyliol gweithwyr, gan arwain at gynnydd mewn cynhyrchiant, perfformiad a morâl tîm. Yn ogystal â thocyn 7 diwrnod am ddim, bydd y busnes gyda’r nifer fwyaf o weithwyr yn mynychu drwy gydol yr wythnos yn derbyn gwobr o aelodaeth un mis am ddim i’w rhoi i un o’ch tîm!

Derbyniwch y gwahoddiad hwn a heriwch eich cyflogeion i fod yn egnïol mewn amgylchedd hwyliog, deniadol a chymdeithasol. Lleihau straen, gwella ffocws a chael ychydig o hwyl!

Os ydych chi'n cofrestru'ch cwmni, cynhwyswch enw'r cwmni yn y maes enw cyntaf/cyfenw ar ein ffurflen gyswllt, os ydych chi'n cofrestru eich hun, cynhwyswch eich manylion.

This promotion is currently not live