Mae pob mis Hydref yn Fis Cenedlaethol Cerdded i’r Ysgol – sef cyfle i blant ymuno â channoedd o ddisgyblion dros y byd i ddathlu cerdded i’r ysgol.
Ein helfa ysglyfaethu cerdded i’r ysgol
Mae cerdded i’r ysgol yn llawer mwy o hwyl gyda’n taflen Helfa Ysglyfaethu Cerdded i’r Ysgol!
- Lawrlwythwch y daflen.
- Cwblhewch yr helfa ysglyfaethu.
- Cyflwynwch eich cerdyn yn eich canolfan hamdden leol.
- Cymrwch ran yn y gystadleuaeth.
Pam fod Cerdded i’r Ysgol o Bwys
Ffynhonnell: Living Streets, elusen yn y DU ar gyfer cerdded bob dydd
Plant Hapusach
Cafodd ei brofi fod plant sy’n gwneud rhyw fath o ymarfer corff, yn enwedig cerdded cyn ysgol, yn gwneud yn well yn y dosbarth achos maen nhw’n cyrraedd wedi egnïo, yn ffit ac yn barod i ddysgu.
Llai o Dagfa
Yn ystod amseroedd mwyaf prysur o ran traffig y bore, mae un o bob pum car ar y ffordd yn mynd â phlant i’r ysgol, gan gyfrannu at dagfa, llygredd aer ac allyriadau carbon.
Aer Glanach
Mae’r daith i’r ysgol ynddi ei hun yn gyfrifol am gynhyrchu hanner miliwn tunnell o CO2 y flwyddyn (sy’n fwy na rhai gwledydd bach!). Dychmygwch beth allen ni ei gyflawni pe bydden ni’n dechrau newid rhai o’r teithiau car hyn i deithiau cerdded?
Ydych chi am gyfranogi fwy yn Wythnos Genedlaethol Cerdded i’r Ysgol?
Yma, fe ddewch o hyd i ddolenni ar gyfer rhagor o fentrau, adnoddau, ffynonellau, a llawer mwy gan Living Streets am fentrau cerdded i’r ysgol.