Beth yw Les Mills BORN TO MOVE?
Cafodd BORN TO MOVE™ ei gynllunio i feithrin cariad gydol oes at ymarfer corff a helpu plant i gael y profiad o lawenydd a bywiogrwydd wrth symud i gerddoriaeth.
Mae pob sesiwn yn bwydo archwaeth naturiol pobl ifanc am ynni, symudiad a chwarae – ac yn eu gadael i fwynhau’r egni, hyder, iechyd da a’r gallu ychwanegol a ddaw yn sgil hynny.
Edrychwch ar y fideo isod i weld rhagor.
Mae’n edrych yn anhygoel, sut all fy mhlant ymuno yn yr hwyl?
Byddwn ni’n rhedeg sesiynau yng Nghanolfannau Hamdden y Byd Dŵr a Gwyn Evans bob wythnos.
£3.90 am ddosbarth 30 munud a £4.50 am ddosbarth 45 munud.
Neu beth am ddechrau Aelodaeth Iau am bris misol isel? Wrth wneud hynny cewch yr hawl i archebu ymlaen llaw a nofio AM DDIM yn ystod yr holl amseroedd nofio cyhoeddus ar draws Wrecsam!
Addas i blant 4-12 oed.
Cysylltwch â’r Byd Dŵr neu Gwyn Evans am ragor o wybodaeth ac i archebu eich lle.
Pryd mae Les Mills BORN TO MOVE?
Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Byd Dŵr:
Dydd Llun 16:30-17:00 (7-12 oed)
Dydd Iau 15:45-16:15 (4-6 oed)
Dydd Iau 16:30-17:15 (7-12 oed)
Dydd Sadwrn 11:45-12:15 (4-6 oed)
Dydd Sadwrn 12:20-13:05 (7-12 oed)
Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Gwyn Evans:
Dydd Iau 17:30-18:00 (8-12 oed)