Ymhlith yr enwebiadau, mae’n anrhydedd i Freedom Leisure fod ar restr fer y categorïau canlynol:

  • Darparwr Dysgu Nofio’r Flwyddyn
  • Menter Cynaladwyedd – Prosiect Llythrennedd Carbon
  • Effaith Cynhwysiant – Gwersi Synhwyraidd Ystradgynlais
  • Effaith Cymunedol – Sblash a Sbri Ystradgynlais

Mae Freedom Leisure yn rheoli’r canolfannau hamdden yng Nghymru ar ran cynghorau Powys, Wrecsam ac Abertawe ac mae yna dros 12,000 o nofwyr ar ei raglen Dysgu Nofio Nofio Cymru gyda thîm medrus iawn o hyfforddwyr nofio sy’n addysgu plant ac oedolion i ddysgu ‘sgil bywyd’ nofio.

Mae'r ymddiriedolaeth hamdden hefyd wedi gosod meincnod newydd ar gyfer cynaliadwyedd yn y sector drwy ei gweithredoedd a'i buddsoddiadau parhaus mewn effeithlonrwydd ynni a thrwy fod yr ymddiriedolaeth hamdden gyntaf yn y DU i ddod yn Sefydliad Llythrennedd Carbon achrededig.

Ar sail yr arferion gorau a’r ymyriadau cyfalaf gwell hyn, mae Freedom Leisure wedi cyflawni gostyngiadau sylweddol yn y defnydd o ynni gan gyflawni arbediad o dros 1,500,000 kWh o ynni sy’n cyfateb ag arbedion carbon sylweddol o 250 tunnell yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ar draws eu cyfleusterau pyllau nofio yng Nghymru. 

Yn ogystal, mae Dreigiau'r Waun, sy'n gweithredu o Ganolfan Hamdden a Gweithgareddau'r Waun ger Wrecsam, wedi'u henwebu ar gyfer Clwb Dŵr y Flwyddyn. Mae'r enwebiad hwn yn dathlu eu hymrwymiad anhygoel i feithrin cynhwysiant, cefnogi datblygiad a sicrhau llwyddiant mewn chwaraeon dŵr.

Mae ‘Ysgol Nofio Simplee’ o Abertawe, sy’n gweithredu o Ganolfan Hamdden Penlan, hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y categori Gwobr Effaith Cynhwysiant. Mae ‘Ysgol Nofio Simplee’ yn ysgol nofio ddielw sy’n arbenigo mewn addysgu’r rhai ag anghenion ychwanegol, hyrwyddo cynhwysiant a chymorth i deuluoedd ar draws Abertawe a’r ardal ehangach.

Enwebwyd nifer o athrawon Freedom Leisure hefyd ar gyfer gwobr fawreddog Athro’r Flwyddyn, gan gydnabod eu hymroddiad eithriadol i ddarparu hyfforddiant nofio rhagorol ac ysbrydoli unigolion o bob oed i gymryd rhan mewn gweithgareddau dŵr.

Rydym wrth ein bodd i gael ein cydnabod ar draws cymaint o gategorïau yng Ngwobrau Nofio Cymru. Mae'r enwebiadau hyn yn dyst i waith anhygoel ein timau, partneriaid a chlybiau, yn ogystal â'n hymrwymiad parhaus i greu rhaglen nofio gynhwysol, cynaliadwy ac effeithiol sydd wir o fudd i iechyd a lles ein cymunedau.

Ivan Horsfall Turner

Prif Swyddog Gweithredol

Mae Freedom Leisure yn llongyfarch yr holl enwebeion hyn ac yn edrych ymlaen at ddathlu llwyddiannau’r gymuned ddŵr yn y seremoni wobrwyo a gynhelir yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn 1 Chwefror.