Mae Freedom Leisure, un o ymddiriedolaethau hamdden nid er elw ac elusennol blaenllaw y DU sy’n rheoli 29 o ganolfannau hamdden ledled Cymru, wedi dathlu llwyddiant yn ddiweddar yn Seremoni Gwobrau Blynyddol Nofio Cymru. Roedd yr ymddiriedolaeth hamdden yn llwyddiannus mewn dau gategori, Darparwr y Flwyddyn ar gyfer Dysgu Nofio a’r Wobr am Fenter Cynaliadwyedd.
I ddathlu’r acolâdau hyn, croesawodd Freedom Leisure gynrychiolwyr o Gyngor Abertawe a oedd wrth eu bodd yn cyflwyno’r tlysau i Freedom Leisure gan gydnabod y llwyddiant ymhellach o’r holl staff a chanolfannau ym Abertawe am eu hymroddiad a’u hangerdd wrth ddarparu rhaglen dysgu nofio arobryn, sy’n addysgu miloedd o oedolion a phlant y ‘sgil bywyd’ hanfodol o nofio, ledled Abertawe.
Mae’r gwobrau hyn yn perthyn i’n canolfannau a’n cydweithwyr anhygoel sy’n gweithio’n ddiflino i gefnogi eu cymunedau. Rydym wrth ein boddau fod Nofio Cymru yn gallu cyflwyno’r tlysau i’n cydweithwyr i arddangos eu gwaith caled a’u hangerdd sy’n gwneud y canolfannau yn hybiau sy’n cael eu gwerthfawrogi gymaint ar gyfer nofio a llawer mwy.
Ivan Horsfall Turner
Rydym yn llongyfarch ein partneriaid Freedom Leisure am y llwyddiant sylweddol hwn. Mae Freedom Leisure yn rheoli canolfannau hamdden y cyngor, gan gynnwys LC a diolchwn iddynt a’u staff am eu gwaith parhaus. Rydym wedi buddsoddi miliynau o bunnoedd i wella’r canolfannau hyn dros y blynyddoedd diweddar ac rydym wrth ein boddau eu bod yn cael eu defnyddio o ddydd i ddydd gan breswylwyr ac ymwelwyr.
Robert Francis Davies
Mae Freedom Leisure yn parhau i ddangos ymroddiad anhygoel wrth ddarparu gwersi nofio o ansawdd uchel sy’n wirioneddol adlewyrchu nodau fframwaith Dysgu Nofio Cymru. Rydym yn falch o gydnabod eu hymroddiad gyda’r gwobrau hyn ac yn edrych ymlaen at barhau ein partneriaeth i sicrhau bod hyd yn oed mwy o blant ac oedolion yn dysgu’r sgil bywyd hanfodol hwn.
Hannah Guise
Gyda’r haf ar ein gwarthaf, nawr yw’r amser i ddysgu nofio neu wella eich techneg nofio gyda’r Darparwr Dysgu Nofio gorau yng Nghymru.