1. Dehongli ac amrywio
1.1 Mae Wealden Leisure Limited, sy’n masnachu fel Freedom Leisure trwy gynrychiolwyr awdurdodedig yn rheoli ac yn rhedeg y safle ac yn delio gydag unrhyw fater mewn perthynas â’r safle.
1.2 Swyddfa Gofrestredig: The Paddock, 1-6 Carriers Way, East Hoathly, East Sussex BN8 6AG.
1.3 Mae’r Telerau ac Amodau Aelodaeth hyn (‘Amodau a Thelerau’) yn cael eu hymgorffori yn y cytundeb aelodaeth rhwng Freedom Leisure a phob aelod unigol (‘Chi’), (‘Y Cytundeb Aelodaeth’). Mae’r Telerau ac Amodau hyn yn disodli unrhyw delerau ac amodau blaenorol sy’n rheoli aelodaeth safle sy’n cael ei rhedeg gan Freedom Leisure.
1.4 Wrth lofnodi’r ffurflen aelodaeth, mae’r aelod yn cytuno i dderbyn y Telerau ac Amodau llawn hyn.
1.5 Mae Freedom Leisure yn cadw’r hawl i amrywio a diddymu’r Telerau ac Amodau hyn ar unrhyw amser. Bydd unrhyw newidiadau, sydd ym marn y cwmni’n hanfodol neu’n ddymunol er mwyn rheoleiddio’r busnes neu ymddygiad aelodau a gwesteion, yn orfodol.
2. Derbyn a dechrau aelodaeth
2.1 Mae gan Freedom Leisure yr hawl derfynol i dderbyn neu wrthod aelod. Mae Freedom Leisure yn cadw’r hawl i ofyn am dystiolaeth o’r holl wybodaeth a roddir wrth gyflwyno cais i ymaelodi.
2.2 Bydd yr aelodaeth yn cychwyn ar ôl derbyn y taliad cyntaf, a’r holl ffioedd sy’n ddyledus. Cyfyngir mynediad at yr ystafell ffitrwydd nes i’r aelod gwblhau sesiwn cynefino priodol.
2.3 Ar ôl i aelod gael ei dderbyn, cyhoeddir cerdyn aelodaeth. Mae’r cerdyn aelodaeth yn aros yn eiddo i Freedom Leisure ac mae’n rhoi hawl i’r aelod fanteisio ar y buddion sy’n dod gyda’r categori aelodaeth a ddewiswyd.
2.4 Mae’n rhaid dangos cardiau aelodaeth i gael mynediad i’r ganolfan. Dim ond defnyddwyr cofrestredig sy’n cael defnyddio’r cardiau aelodaeth. Os caiff cerdyn ei gamddefnyddio, caiff yr aelodaeth ei chanslo ar unwaith, ac ni fydd ad-daliad ar gael.
2.5 Efallai y bydd ffi yn cael ei chodi am gerdyn newydd os caiff cerdyn ei golli neu ei ddifrodi.
2.6 Ni ad-delir ffioedd aelodaeth os bydd aelod yn dewis peidio ymweld â’r ganolfan.
2.7 Adeg ymaelodi, bydd angen cofnod ar ffurf llun o’r aelod, a chaiff hwn ei gadw ar y system gyfrifiadurol fel dull o i adnabod yr aelod.
3. Cyfyngiad ar atebolrwydd
3.1 Ni fydd Freedom Leisure yn gyfrifol os nad yw unrhyw wasanaeth neu gyfleusterau ar gael oherwydd rhesymau tu hwnt i’n rheolaeth ni.
3.2 Mae Freedom Leisure yn cadw’r hawl i newid gwasanaethau, y rhaglen weithgareddau a chyfleusterau. Ble bynnag fydd hyn yn bosib, rhoddir rhybudd ymlaen llaw i aelodau am hyn. Ni fydd gan aelodau’r hawl i gael ad-daliad lawn neu rannol o’r ffioedd aelodaeth oni nodir hyn yn benodol.
3.3 Chi sy’n gyfrifol am sicrhau eich bod chi a’ch gwesteion yn defnyddio’r cyfleusterau a/neu offer (gan gynnwys addasu lefelau a gosodiadau) yn gywir ac yn ddiogel. Os oes gennych unrhyw amheuon, dylech ofyn i un o aelodau staff Freedom Leisure.
3.4 Mae gofyn i aelodau a’u gwesteion gydymffurfio ag unrhyw geisiadau a chyfarwyddiadau rhesymol mewn perthynas â’u hiechyd a’u diogelwch eu hunain, cwsmeriaid eraill, a staff.
3.5 Cyfyngir atebolrwydd Freedom Leisure o ran iawndal mewn perthynas ag unrhyw golled neu ddifrod (yn achos colled neu ddifrod ar wahân i farwolaeth neu anaf personol) i swm rhesymol, gan ystyried ffactorau megis a oedd y golled neu ddifrod yn deillio o esgeulustod y cwmniai pedio.
3.6 Bydd deddfwriaeth briodol y Deyrnas Unedig yn berthnasol i’r cytundeb hwn, a bydd gan y Deyrnas Unedig awdurdod i ddelio gydag unrhyw anghydfod sy’n deillio o hyn.
3.7 Cyn defnyddio’r gampfa, mae’n rhaid i chi ddarllen a llofnodi copi o’r datganiad ymrwymiad iechyd (HCS) i gadarnhau eich bod yn deall ac yn cytuno â’r telerau hyn.
4. Categorïau aelodaeth
4.1 Mae manylion categorïau aelodaeth penodol, manteision a phrisiau ar gael ymhob canolfan, ac maent yn rhan o ‘Canllawiau’r Ganolfan’.
4.2 Aelodaeth ratach
4.2.1 Mae aelodaeth ratach ar gael i bobl sy’n derbyn: Lwfans Ceisio Gwaith, Lwfans Byw i’r Anabl, Budd-dal Analluogrwydd, Cymhorthdal Incwm ac i bobl sy’n ofalwyr cofrestredig.
4.2.2 Bydd angen tystiolaeth o’ch hawl i’r uchod adeg ymaelodi. Efallai y byddwn yn gwneud copi i’w gadw ar ffeil. Gall Freedom Leisure ofyn ar unrhyw adeg am dystiolaeth eich bod yn dal i dderbyn y budd-daliadau uchod. Os na ddarperir y dystiolaeth angenrheidiol, daw’r hawl i ffioedd rhatach i ben, bydd yn rhaid i’r aelod dalu’r ffioedd llawn, a chaiff unrhyw ddebyd uniongyrchol ei ddiwygio’n unol â hynny.
4.2.3 Eich cyfrifoldeb chi yw ein hysbysu os bydd statws eich budd-daliadau’n newid.
4.3 Gellir newid categorïau aelodaeth dwywaith mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeg mis. Gall unrhyw newidiadau dros hynny olygu talu ffi weinyddol.
4.4 Mewn safleoedd lle mae aelodaeth ar y cyd ac aelodaeth i deuluoedd ar gael, gwneir hyn ar yr amod y daw’r taliad o un cyfrif banc, a bod yr aelodau’n byw yn yr un cyfeiriad.
4.5 yn achos aelodaeth ar y cyd ac aelodaeth i deuluoedd, bydd y llofnod ar y ffurflen ymaelodi yn arwydd fod pawb sy’n aelod drwy hynny’n derbyn y Telerau ac Amodau hyn ac yn ymrwymo i gadiw atynt.
4.6 Aelodaeth Gorfforaethol
4.6.1 Gellir trefnu aelodaeth gorfforaethol ymlaen llaw i fudiadau sydd â deg neu fwy o aelodau gweithgar. Os bydd nifer yr aelodaeth ar raddfa gorfforaethol yn syrthio o dan ddeg, bydd yr aelodau sy’n weddill yn trosglwyddo i’r raddfa safonol, a chaiff y debyd uniongyrchol ei newid.
4.6.2 Bydd angen i chi roi tystiolaeth o’ch swydd gyda chwmni sydd ag aelodaeth gorfforaethol adeg prynu aelodaeth. Mae Freedom Leisure yn cadw’r hawl i ofyn am dystiolaeth o swydd gyda chwmni corfforaethol ar unrhyw adeg.
4.6.3 Eich cyfrifoldeb chi yw ein hysbysu os bydd eich statws gwaith yn newid.
4.7 Cynigir categorïau Aelodaeth eraill, gan gynnwys cynigion arbennig, fel y gwelwn yn dda.
4.8 Mae Freedom Leisure yn cadw’r hawl i newid buddion aelodaeth ar unrhyw adeg. Rhoddir o leiaf 10 diwrnod gwaith o rybudd cyn diwygio unrhyw fuddion.
5. Telerau talu
5.1 Mae manylion yr holl ffioedd sy’n daladwy ar gael yn ‘Canllawiau’r Ganolfan’.
5.2 ‘Taliad Cychwynnol’ fydd y tanysgrifiad cyntaf a delir gan aelod wrth ymaelodi. Cyfrifir hyn ar sail pro-rata o safbwynt y math o aelodaeth a nifer y dyddiau rhwng y dyddiad cychwyn aelodaeth a dyddiad y debyd uniongyrchol cyntaf. Mae’r Taliad Cychwynnol yn ddyledus syth ar ôl llofnodi’r Ffurflen Ymaelodi.
5.3 Byddwch yn cael dim llai na 10 diwrnod o rybudd o unrhyw gynnydd yn y ffi tanysgrifio fisol yn unol â Gwarant y Cynllun Debyd Uniongyrchol.
5.4 Os, am unrhyw reswm, byddwch yn methu taliad trwy Ddebyd Uniongyrchol, caiff eich aelodaeth ei gohirio nes inni dderbyn y taliad am y swm dan sylw.
5.5 Byddwch yn gyfrifol am dalu’r holl ffioedd aelodaeth heb ystyried pa mor aml y byddwch yn defnyddio’r ganolfan.
5.6 Defnyddir Debyd Uniongyrchol i dalu’r holl daliadau misol ymlaen llaw. aelodaeth unrhyw fanteision aelodaeth, ac ni fydd gan yr unigolyn yr hawl i hawlio nac i gael ad-daliad o’r ffi aelodaeth, gan gynnwys aelodaeth a dalwyd yn llawn. Bydd yr aelod yn dychwelyd y cerdyn aelodaeth i’r ganolfan ar unwaith trwy ddefnyddio gwasanaeth post a gofnodir.
6. Cyfnod atal
6.1Gall aelodau sy’n talu trwy Ddebyd Uniongyrchol, fel y gwêl Rheolwr y Ganolfan yn dda, atal aelodaeth am hyd at bedwar mis mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeg mis.
6.2 Ni chaniateir atal aelodaeth am gyfnod unigol o fwy na phedwar mis, gydag o leiaf tri mis rhwng cyfnodau atal.
6.3 Mae’n rhaid i aelodau roi rhybudd ysgrifenedig neu lenwi ffurflen diwygio trefniadau o leiaf 31 diwrnod cyn cychwyn y cyfnod atal.
6.4 Fel arfer dylai’r cyfnod atal ddod o fewn y cyfnod talu.
6.5 Pan fydd cyfnod atal ar ben, bydd Freedom Leisure yn ailgychwyn y Debyd Uniongyrchol yn awtomatig ac ni fydd y cwmni’n cysylltu â chi. 6.6 Efallai y codir tâl gweinyddol o £10 ar aelodau bob tro maent am atal aelodaeth am gyfnod.
7. Canslo (gennych chi)
7.1 Yn amodol ar ddarpariaethau’r Cytundeb Aelodaeth, gellir canslo eich aelodaeth Debyd Uniongyrchol ar unrhyw adeg trwy roi rhybudd ysgrifenedig i Reolwr Freedom Leisure yn eich canolfan gartref (sef y safle lle wnaethoch chi ymaelodi) a thrwy roi o leiaf 31 diwrnod o rybudd cyn y taliad Debyd Uniongyrchol nesaf. Dylech ddychwelyd eich cerdyn aelodaeth erbyn y dyddiad hwn.
7.2 Yr Aelod sy’n gyfrifol am ganslo’r Debyd Uniongyrchol gyda’r banc.
7.3 Fel arfer, ac fel y gwêl Rheolwr y Ganolfan yn dda, ni fydd ffioedd aelodaeth a dalwyd yn llawn, yn cael eu had-dalu.
7.4 Gellir trosglwyddo aelodaeth a dalwyd yn llawn, fel y gwel Rheolwr y Ganolfan yn dda.
8. Canslo (gan y ganolfan)
8.1 Mae Freedom Leisure yn cadw’r hawl i atal neu derfynu aelodaeth.
8.1.1 Os bydd Rheolwr y Ganolfan o’r farn y gall eich ymddygiad achosi niwed i gymeriad, enw neu fuddiannau’r ganolfan, neu os bydd yr ymddygiad yn golygu nad yw’r aelod yn addas i gymdeithasu gydag aelodau eraill, gall y Rheolwr heb unrhyw rybudd, derfynu aelodaeth, a bydd hynny’n dod i rym ar unwaith.
8.1.2 Os byddwch wedi torri canllawiau, rheolau neu ddeddfau lleol y Ganolfan sydd mewn grym ar y pryd, heb unrhyw rybudd, a bydd hynny’n dod i rym ar unwaith.
8.1.3 Trwy rybudd ysgrifenedig os nad ydych wedi talu unrhyw ffioedd dyledus o fewn 30 diwrnod i’r dyddiad dyledus.
8.2 Efallai y bydd angen talu ffi ymaelodi/cofrestru newydd ar gyfer cyfnodau atal aelodaeth dros 3 mis o hyd.
8.3 Ni fydd gan unigolyn y mae’r ganolfan wedi terfynu ei aelodaeth unrhyw fanteision aelodaeth, ac ni fydd gan yr unigolyn yr hawl i hawlio nac i gael ad-daliad o’r ffi aelodaeth, gan gynnwys aelodaeth a dalwyd yn llawn. Bydd yr aelod yn dychwelyd y cerdyn aelodaeth i’r ganolfan ar unwaith trwy ddefnyddio gwasanaeth post a gofnodir.
9. Cyfleusterau a gwasanaethau
9.1 Caiff oriau agor arferol y ganolfan eu harddangos yn y ganolfan, ac maent ar gael hefyd ar y wefan. Gellir ymestyn neu gwtogi’r oriau hyn fel y gwêl cwmni Freedom Leisure yn dda. Byddwn yn ceisio rhoi o leiaf 7 diwrnod o rybudd i gwsmeriaid am unrhyw newid.
9.2 os na fyddwch yn cyrraedd ar gyfer gweithgaredd a drefnwyd ymlaen llaw, neu os byddwch yn canslo o fewn 24 awr byddwch yn gyfrifol am dalu’r swm sy’n ddyledus, ar sail y drefn Talu a Chwarae, am y gweithgaredd dan sylw, neu am y ffi a bennir yn y canllawiau aelodaeth oni ellir ail-werthu’r sesiwn dan sylw.
9.3 Efallai y bydd pob canolfan yn cau am gyfnod bob blwyddyn, ond ni fydd y cyfnod fel arfer yn hwy na thair wythnos. Rhoddir o leiaf 14 diwrnod o rybudd o’r bwriad i gau. Ni fydd y cwmni’n ad-dalu unrhyw ffioedd aelodaeth ar gyfer y cyfnodau hyn.
9.4 Mae Canllawiau’r Ganolfan yn cynnwys telerau derbyn ‘Gwesteion’.
10. Cyffredinol
10.1 Mae gofyn i chi hysbysu Freedom Leisure am unrhyw newidiadau i’ch cyfeiriad, cyfeiriad e-bost, rhifau ffôn, neu unrhyw ddull cyfathrebu arall. Ebost fydd ein dewis ddull o gyfathrebu, a byddwn yn cymryd yn ganiataol eich bod wedi darllen unrhyw ohebiaeth pum diwrnod ar ôl anfon y neges e-bost at y cyfeiriad diweddaraf sydd gennym ar ein cofnodion.
10.2 Trwy roi cyfeiriad e-bost, mae’r aelod yn cytuno i dderbyn gohebiaeth drwy e-bost. Mae’r aelod hefyd yn derbyn nad yw ebost bob tro yn ddull cyfathrebu diogel a chyfrinachol. Ni fydd Freedom Leisure yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod sy’n deillio o gyfathrebu gydag aelod trwy ebost.
10.3 Trwy roi rhif ffôn symudol, mae’r aelod yn cytuno i dderbyn gwybodaeth trwy neges destun. Mae’r aelod hefyd yn cytuno nad yw negeseuon testun yn ddull cyfathrebu diogel a chyfrinachol. Ni fydd Freedom Leisure yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod sy’n deillio o gyfathrebu gydag aelod trwy neges destun.
10.4 Mae Freedom Leisure yn cadw’r hawl i wrthod mynediad.
10.5 Rydym yn cadw’r hawl i dynnu ffotograffau o’r canolfannau sy’n cael eu rhedeg gennym (fydd efallai’n eich cynnwys chi, cyn belled â bod hynny ar ddamwain) at ddibenion y wasg ac i hyrwyddo’r gwasanaeth cyn belled â’n bod yn rhoi rhybudd digonol.
11. Preifatrwydd a diogelu data
11.1 Mae Freedom Leisure yn trin diogelu eich data o ddifrif.
11.2 Mae pob cofnod yn cael ei gadw ar systemau cyfrifiadurol.
11.3 Rydym yn rheoli’r dulliau y mae’ch data personol yn cael ei gasglu ac i ba ddibenion y’i defnyddir gan Wealden Leisure Cyf. sy’n masnachu fel Freedom Leisure. Ni yw’r “rheolydd data” at ddibenion Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol 2018 a deddfwriaethau diogelu data’r Undeb Ewropeaidd cymwys eraill.
11.4 Nid ydym yn rhannu’ch manylion cyswllt a data personol eraill â chwmnïau eraill at ddibenion marchnata, oni bai i chi gydsynio i ni ei wneud.
11.5 Mae gennych chi hawl i weld y data personol rydym yn ei gadw amdanoch chi. Gall hyn gynnwys eich gwybodaeth aelodaeth mewn perthynas â chynnyrch a gwasanaethau rydych wedi eu cael gennym.
11.6 Gallwch chi weld ein Polisi Preifatrwydd ar unrhyw adeg www.freedom-leisure.co.uk/privacy Os oes gennych chi gwestiynau am eich data personol neu os hoffech ddiwygio’r data rydym yn ei gadw amdanoch mae croeso i chi gysylltu â ni drwy e-bost: data.protection@freedom-leisure.co.uk.
12. Aelodaeth o’r ysgol nofio
12.1 Bydd yr aelod neu riant/gwarcheidwad yr aelod yn hysbysu’r cwmni o unrhyw newid i gyfeiriad a rhifau ffôn mewn argyfwng o fewn 7 diwrnod i’r newid. 12.2 Bydd yr aelod neu riant/gwarcheidwad yn hysbysu’r ganolfan am unrhyw gyflwr meddygol fydd efallai’n effeithio ar yr aelod wrth iddo/iddi gymryd rhan yn y rhaglen o wersi nofio.
12.3 Bydd Rhiant/gwarcheidwad yr aelod, os bydd o dan 16 oed, yn aros yn y ganolfan bob adeg, a bydd ar gael i’r aelod neu aelod o staff, os oes angen, yn ystod y wers.
12.4 Ni ellir gohirio aelodaeth o’r ysgol nofio.