Ymunwch heddiw a chael £25 i ffwrdd o’ch pris aelodaeth*achos ddylech chi ddim aros er mwyn teimlo’n iachach, yn gryfach ac yn hyderus.  

Boed yn adeiladu cyhyrau, colli pwysau, neu wella eich lles meddyliol, mae ein cyfleusterau a’n staff cyfeillgar yma i’ch cefnogi. Nid yn unig i drawsnewid eich corff yw gweithgaredd corfforol - mae'n adnewyddu'ch meddwl. Rydych chi dim ond un sesiwn ymarfer corff i ffwrdd o well cwsg, llai o straen, ac i ddod yn unigolyn cryfach.

Hawliwch eich £25 i ffwrdd a dechrau ar eich taith actif dros yr haf nawr!  

Telerau ac Amodau’n gymwys, gweler isod am fanylion  

1
2
3

I ddechrau, rhowch eich lleoliad

Pam ddewis Canolfan Freedom Leisure?

Yng Nghanolfannau Freedom Leisure, rydym yn credu mewn darparu profiad ffitrwydd holl gynhwysol sy’n darparu ar gyfer eich holl anghenion.  P’un a ydych yn newydd i ymarfer corff neu’n rhywun profiadol sy’n frwd dros ffitrwydd, mae gennym rywbeth ar gyfer pawb!

Telerau ac Amodau mewn grym

  • Bydd £25 yn cael dynnu o’ch Ffi Ymuno a thaliad pro-rata ar yr amod fod debyd uniongyrchol yn cael ei arwyddo ar gyfer eich taliad mis llawn cyntaf 
  • Gellir hawlio’r £25 i ffwrdd yn erbyn aelodaeth ffitrwydd llawn i oedolyn. Mae pob aelodaeth ddisgownt arall yn gynwysedig, Nid yw aelodaeth gonsesiynol yn gynwysedig. Gwiriwch gyda’ch canolfan hamdden leol am aelodaeth gymwys
  • Bydd eich taliad cyntaf a’ch taliad debyd uniongyrchol yn amrywio gan ddibynnu ar eich dewis o ganolfan hamdden 
  • Bydd y nwyddau a’r gwasanaethau a gynigir gydag aelodaeth yn amrywio gan ddibynnu ar eich dewis o ganolfan hamdden 
  • Does dim dewis arall gydag arian parod 
  • Dim ond i’r sawl sy’n ymuno o’r newydd y mae’r cynnig hwn yn agored 
  • Mae cyfyngiadau eraill a thelerau ac amodau yn gymwys. Gwiriwch gyda’ch canolfan hamdden leol cyn prynu

Daw’r cynigion i ben: 12/05/2025

Talu llai am nofio

Os yw’n well gennych nofio na chodi pwysau, bydd ein cynigion aelodaeth yn rhoi mynediad i chi at amrywiaeth o byllau nofio Freedom Leisure i berffeithio eich arddull nofio, cymryd rhan mewn aerobeg dŵr neu ymlacio ar ôl gwaith yn y pwll.

Talu llai am ymarfer corff

Mae pob gym Freedom Leisure yn ddelfrydol ar gyfer gweithio ar eich amcanion ffitrwydd, hyfforddi a magu cryfder yn y cyhyrau mewn amgylchedd cefnogol ac ysgogol. Mae ein tîm proffesiynol cymwys o safon uchel yr un mor angerddol ag ydych chi, a byddant yn sicrhau eich bod chi’n cael y canlyniadau gorau gan ddefnyddio offer o’r radd flaenaf.

Talu llai i ymuno â dosbarthiadau

Mae llawer o’n canolfannau’n cynnig amrywiaeth eang o ddosbarthiadau i’ch helpu i gadw’n ffit a gofalu ar ôl eich llesiant corfforol a meddyliol mewn amgylchedd cyfeillgar a chymdeithasol. O’r holistig i HIIT, a phopeth rhyngddynt, rydyn ni’n hyderus y dewch o hyd i’r dosbarth cywir ar eich cyfer chi.

Talu llai am chwaraeon dan do ac yn yr awyr agored

Mae ein cyrtiau, neuaddau chwaraeon a meysydd chwarae o ansawdd uchel ar gael ar gyfraddau ffantastig ar ddisgownt i’r sawl sy’n chwilio am rywle i chwarae sboncen gyda ffrind ar ôl gwaith neu gicio pêl gyda ffrindiau fore Sadwrn.

Pam dewis Freedom Leisure

Wrth fanteisio ar gynigion grêt yn y gym y mis hwn, byddwch yn mwynhau mynediad at amrywiaeth o gyfleusterau ffitrwydd yn eich ardal. O gyrtiau tenis dan lifoleuadau, i gym o’r radd flaenaf a llawer o gyfleusterau eraill, mae gan ein canolfannau rywbeth i bawb. Cwblhewch y manylion ar y ffurflen uchod neu cysylltwch â’ch canolfan leol am ragor o wybodaeth!

Yr hyn y mae ein cwsmeriaid presennol yn ei ddweud amdanom ni

Beth sy’n gynwysedig mewn aelodaeth Freedom Leisure?

Rydyn ni’n cynllunio ein haelodaeth o gwmpas y cymunedau a wasanaethwn felly gallwch ddisgwyl amrywiaeth eang o becynnau aelodaeth unigryw sy’n bwrpasol i bob canolfan. Dyma flas o’r hyn sy’n cael ei gynnig:

  • Aelodaeth Ddiderfyn – mynediad at nifer o ganolfannau Freedom Leisure yn eich ardal
  • Aelodaeth i’r Teulu – cadwch yn actif gyda’r teulu!
  • Aelodaeth Hŷn – cyfraddau wedi eu disgowntio ar gyfer pobl hŷn
  • Aelodaeth i Fyfyrwyr – cyfraddau wedi eu disgowntio ar gyfer myfyrwyr mewn addysg lawn amser
  • Aelodaeth Gorfforaethol – cyfraddau wedi’u disgowntio ar gyfer ein partneriaid corfforaethol, gan gynnwys pob gweithiwr allweddol a gweithwyr argyfwng

Sut i gael gostyngiad i aelodaeth gym

Mae hyn yn ddigon hawdd! Cwblhewch y ffurflen uchod neu gysylltu â’ch canolfan leol heddiw.. 

Mae pob cynnig yn amodol ar yr hyn sydd ar gael yn lleol.

  • Cynigion ar gael am gyfnod cyfyngedig yn unig, gwiriwch gyda’ch canolfan leol
  • Mae’r gweithgareddau’n amrywio ac yn  amodol ar argaeledd
  • 16+ oed
  • Gall prisiau amrywio
  • Mae’n bosibl y bydd telerau ac amodau eraill yn berthnasol

Cwestiynau Cyffredin

Heb ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch?

Os ydych angen help gydag unrhyw beth, ewch i’n canolfan gymorth neu cysylltwch â ni!