Beth allwch chi ei ddisgwyl o'r rhaglen?
- Ar ôl cwblhau cais llwyddiannus – Aelodaeth 12 mis am ddim yn eich canolfan hamdden leol
- Mynediad i gyfleusterau (campfa, nofio a dosbarthiadau ymarfer corff grŵp) i gefnogi eich rhaglen hyfforddi
- Gellir ychwanegu mynediad at gyfleusterau ychwanegol (cyrtiau, trac, iâ) os yw'n berthnasol i'ch cais a byddant ar gael i'w defnyddio yn ystod amseroedd tawelach o fewn sesiynau cyhoeddus ac nid ar eich pen eich hunan
- Mynediad at fuddion aelodau drwy'r ap Freedom Leisure (lle bo hynny'n berthnasol)
- 3 tocyn diwrnod i ffrindiau a theulu
Meini Prawf Cymhwysedd
- Wedi'u rhestru o fewn yr 20 uchaf yn genedlaethol (pob oedran) ar gyfer eu camp / disgyblaeth
- Cystadlu mewn chwaraeon sy'n cael eu cydnabod gan Chwaraeon Lloegr a Chwaraeon Cymru
- Yn byw mewn Bwrdeistref neu Ardal y mae Freedom Leisure yn rhedeg cyfleusterau
- Dros 11 oed
Os yw'r holl feini prawf uchod yn berthnasol i chi, ewch ymlaen a llenwch y ffurflen isod yn llawn.
Trwy glicio anfon rydych chi'n cadarnhau bod y wybodaeth rydych chi'n ei darparu yn rhoi manylion cywir o'ch lefel perfformiad presennol yn eich camp(au) ac rydych chi'n rhoi caniatâd i ni gysylltu â chi os ydych chi'n llwyddiannus:
Bydd ceisiadau'n cau hanner nos ar 12 Mai 2025. Mae telerau, amodau a chyfyngiadau lleol yn berthnasol a fydd yn cael eu hegluro i chi gan dîm eich canolfan leol.
Cwestiynau Cyffredin
Byddwn yn eich neilltuo i ganolfan sy’n lleol i chi. Byddwn yn ymdrechu i wneud yn siŵr bod y cyfleusterau'n cyd-fynd â'ch anghenion ond ni ellir gwarantu hyn bob amser.
Byddwch yn gallu defnyddio'r gampfa, ein rhaglen dosbarthiadau ffitrwydd a'r pwll nofio. Bydd y cyfleusterau'n amrywio yn dibynnu ar le ry’ch chi’n byw a'r ganolfan sy’n lleol i chi. Byddwn yn ymdrechu i'ch gosod mewn canolfan gyda'r cyfleusterau cywir ond ni ellir gwarantu hyn.
Cyn belled â bod y chwaraeon yn cael eu cydnabod gan Chwaraeon Lloegr neu Chwaraeon Cymru, byddwn yn ystyried cais. Mae'r rhestr yn cynnwys chwaraeon o badminton i fowlio, tenis i fowlio deg.
Yn anffodus na. Derbynnir ceisiadau gan unigolion yn unig.
Rhoddir caniatâd yn lleol i hyfforddwyr fynd i mewn i'r cyfleusterau i gynorthwyo gyda hyfforddiant yn dibynnu ar eich anghenion mynediad a'r gamp rydych chi'n cymryd rhan ynddi. Fodd bynnag, mae ystyried cwsmeriaid eraill yn hollbwysig, yn enwedig ar yr adegau prysur
- Bydd aelodaeth yn ddilys am 12 mis, bydd angen i chi ailymgeisio ar ôl 12 mis i gael eich asesu fel un sy'n gymwys ar gyfer aelodaeth bellach. Mae ceisiadau ar agor unwaith y flwyddyn o fis Ebrill.
- Os bydd ffrindiau a theulu yn dymuno hyfforddi gyda chi, bydd angen eu haelodaeth eu hunain arnynt ar ôl i chi ddefnyddio eich tocyn diwrnod ar gyfer 3 gwestai.
- Bydd angen caniatâd rhieni ar blant dan 16 oed i gymryd rhan yn y rhaglen
- Disgwylir i athletwyr barchu a hyfforddi wrth ymyl aelodau presennol ac ni fyddant yn cael blaenoriaeth i gyfleusterau neu’r defnydd o offer
- Rhoddir caniatâd yn lleol i hyfforddwyr fynd i mewn i'r cyfleusterau i gynorthwyo hyfforddiant. Mae ystyried aelodau eraill yn hollbwysig, yn enwedig ar adegau prysur. Disgwylir i ymgeiswyr fyw ger cyfleuster Freedom Leisure, bydd angen cod post ar gais.
- Dylai athletwyr fod wedi cwblhau ffurflen gais lawn i’w hystyried ar gyfer y cynllun
- Defnyddio’r cyfleusterau i ategu'ch rhaglen hyfforddi benodol yn unig, i wella eich cynnydd yn eich camp
- Un astudiaeth achos bersonol bob 12 mis, i ddangos effaith a chynnydd a wnaed drwy gael mynediad i'r cyfleusterau – Rhaid i hyn gynnwys un llun o fewn y cyfleuster ac un yn cystadlu yn eich camp
- Caniatâd i ddefnyddio'r cynnwys astudiaeth achos i hyrwyddo'r cynllun a rhoi cyhoeddusrwydd am eich llwyddiannau chwaraeon ar ein cyfryngau cymdeithasol, gwefan ac mewn datganiadau i'r wasg. Cytundeb y bydd Freedom Leisure yn cael ei gydnabod yn gadarnhaol am ein cefnogaeth ar gyfryngau cymdeithasol, y wasg leol/cyfryngau
- Bydd disgwyl i athletwyr fynychu un digwyddiad cymunedol Freedom Leisure yn ystod y 12 mis. Bydd gwybodaeth am hyn yn cael ei rhoi ymlaen llaw.