Y mathau o ddosbarthiadau rydyn ni’n eu cynnig
Dosbarthiadau Les Mills
Gyda chyfuniad y gerddoriaeth gyfoes, y dulliau ymarfer corff arloesol, ac egni’r grŵp, mae dosbarthiadau LES MILLS yn siŵr o wneud i chi gwympo mewn cariad â ffitrwydd. Mae’r dosbarthiadau’n cynnwys BODY Pump, BODY Combat, BODY Attack a BODY Balance.
Dosbarthiadau Ymwybyddiaeth Ofalgar
Mae ioga a philates yn ymarfer dwysedd isel, sy’n addas i bob lefel ffitrwydd ac mae’n ymarfer sy’n garedig i’r cymalau. Yn wir, gall leihau’r risg o gael anaf yn y lle cyntaf. Mae’r ymarferion yn ategu gweithgareddau ymarfer corff eraill. Nid yw ioga a philates rhywbeth i droi atynt mewn achos o anaf.
HIIT
Mae HIIT (Hyfforddiant Dwys gyda Seibiannau) wedi dod yn weithgaredd ymarfer corff poblogaidd iawn. Mae’r dosbarthiadau gan amlaf yn defnyddio ymarferion sy’n defnyddio pwysau’r corff - fel pull-ups, push-ups, neidiau sgwat, sbrintiau high-knee a sit-ups a byddwch yn siŵr o gael eich gwthio hyd eithaf eich gallu.
Seiclo dan do
Mae seiclo dan do, seiclo mewn stiwdio neu ‘chwilbedlo’ yn ymarfer corff dwysedd uchel ar feic llonydd. Fel arfer, caiff dosbarthiadau eu harwain gan hyfforddwr neu mae’n bosibl y bydd ‘hyfforddwr rhithwir’ ar y sgrin. Mae’n wych i siapio’r cyhyrau a’ch cryfhau.
Aerobeg Ddŵr
Mae dosbarthiadau Aerobeg Ddŵr yn ffordd wych o gyfuno sesiwn draddodiadol yn y gampfa gyda manteision rhyfeddol dŵr. Byddwch yn gweld gwahaniaeth mawr yn eich ffitrwydd ar ôl ychydig sesiynau’n unig.
Hyfforddiant Swyddogaethol
Mae hyfforddiant swyddogaethol yn dechrau cynyddu’i boblogrwydd fel ffordd o wella ffitrwydd y corff cyfan! Mae ein hardaloedd hyfforddi yn cynnwys offer fel kettlebells, rhaffau, stepiau a phwysau llaw.
Oeddech chi’n gwybod?
Gall y profiad o fod mewn dosbarth ymarfer corff grŵp godi lefelau endorffinau yn fwy na gweithgareddau ymarfer corff eraill. Hormonau sy’n eich gwneud i deimlo’n dda yw endorffinau, ac mae cyfuniad y gerddoriaeth, yr athro sy’n eich arwain, eich ymdrech a’r ffaith eich bod yn rhan o grŵp o bobl, yn helpu’ch corff i ryddhau mwy ohonyn nhw!