P'un a ydych yn gwneud ymarfer corff yn barod neu'n ddechreuwr, mae rhywbeth yma i chi. Y cam cyntaf yw'r pwysicaf. Ac rydyn ni'n gwneud y cam hwnnw yn HAWDD!  

Mynnwch eich Tocyn 1 Diwrnod AM DDIM a phrofwch yr hyn sydd gennym i'w gynnig: 

- Cyfleusterau campfa modern

- Hyfforddwyr arbenigol

- Pyllau nofio i ymlacio

- Siop goffi

Peidiwch ag aros! Hawliwch eich tocyn heddiw.
This promotion is currently not live

Telerau ac Amodau

  • Bydd eich tocyn yn ddilys am un diwrnod yn unig yn amodol ar oriau agor ac amserlenni
  • Bydd y cynhyrchion a'r gwasanaethau y gallwch eu defnyddio yn wahanol mewn gwahanol canolfannau, cofiwch wirio hyn gyda’ch canolfan leol
  • Dim ond ar y diwrnod y gellir archebu sesiynau ac mae’n ddibynnol os byddant ar gael.
  • Bydd defnyddio'r gampfa yn amodol ar lofnodi Datganiad Ymrwymiad Iechyd
  • Nid oes gan eich tocyn unrhyw werth arian parod ac ni ellir gofyn am y gwerth ariannol.

Bydd telerau ac amodau lleol eraill yn berthnasol. Gofynnwch i aelod o'r tîm.

Talu llai am nofio

Os yw’n well gennych nofio na chodi pwysau, bydd ein cynigion aelodaeth yn rhoi mynediad i chi at amrywiaeth o byllau nofio Freedom Leisure i berffeithio eich arddull nofio, cymryd rhan mewn aerobeg dŵr neu ymlacio ar ôl gwaith yn y pwll.

Talu llai am ymarfer corff

Mae pob gym Freedom Leisure yn ddelfrydol ar gyfer gweithio ar eich amcanion ffitrwydd, hyfforddi a magu cryfder yn y cyhyrau mewn amgylchedd cefnogol ac ysgogol. Mae ein tîm proffesiynol cymwys o safon uchel yr un mor angerddol ag ydych chi, a byddant yn sicrhau eich bod chi’n cael y canlyniadau gorau gan ddefnyddio offer o’r radd flaenaf.

Talu llai i ymuno â dosbarthiadau

Mae llawer o’n canolfannau’n cynnig amrywiaeth eang o ddosbarthiadau i’ch helpu i gadw’n ffit a gofalu ar ôl eich llesiant corfforol a meddyliol mewn amgylchedd cyfeillgar a chymdeithasol. O’r holistig i HIIT, a phopeth rhyngddynt, rydyn ni’n hyderus y dewch o hyd i’r dosbarth cywir ar eich cyfer chi.

Talu llai am chwaraeon dan do ac yn yr awyr agored

Mae ein cyrtiau, neuaddau chwaraeon a meysydd chwarae o ansawdd uchel ar gael ar gyfraddau ffantastig ar ddisgownt i’r sawl sy’n chwilio am rywle i chwarae sboncen gyda ffrind ar ôl gwaith neu gicio pêl gyda ffrindiau fore Sadwrn.

Pam dewis Freedom Leisure

Wrth fanteisio ar gynigion grêt yn y gym y mis hwn, byddwch yn mwynhau mynediad at amrywiaeth o gyfleusterau ffitrwydd yn eich ardal. O gyrtiau tenis dan lifoleuadau, i gym o’r radd flaenaf a llawer o gyfleusterau eraill, mae gan ein canolfannau rywbeth i bawb. Cwblhewch y manylion ar y ffurflen uchod neu cysylltwch â’ch canolfan leol am ragor o wybodaeth!

What our existing customers say about us: