Beth yw Teuluoedd Egnïol?
Mae hwn yn gynllun a ariennir gan Chwaraeon Powys i annog teuluoedd i fod yn egnïol gyda'i gilydd. Bydd y cynllun yn defnyddio hyfforddiant cylchol i hybu ymarfer corff a ffyrdd iach o fyw, addasu strategaethau ysgogi, a chreu sesiynau ymarfer corff diogel wedi'u targedu at rieni a phlant 8-15 oed.
Mae’r canolfannau canlynol yn cynnal sesiynau Teuluoedd Egnïol:
- Canolfan Hamdden y Flash (Y Trallwng). Ffôn: 01938 555952
- Canolfan Chwaraeon Llandrindod Ffôn: 01597 824249
- Canolfan Hamdden Maldwyn (Y Drenewydd). Ffôn: 01686 628771
- Canolfan Chwaraeon Ystradgynlais Ffôn: 01639 844854
- Canolfan Hamdden Aberhonddu. Ffôn: 01874 623677
“Mae’r sesiynau’n gyffrous ac yn hwyl, bob amser wedi’u hesbonio’n dda, yn drefnus, ac wedi’u cynnal o fewn terfynau ffitrwydd pawb. Rydyn ni’n hoffi sut rydyn ni i gyd yn gallu ymarfer gyda’n gilydd a byddem yn falch pe gallem gael mwy o sesiynau fel hyn yn ystod yr wythnos.”
Eleri Thomas, mam i ddau
Heb ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch?
Os ydych angen help gydag unrhyw beth, ewch i’n canolfan gymorth neu cysylltwch â ni!