Gwersylloedd Gwyliau Aml-Chwaraeon Powys
Mae’r gwersylloedd hyn ar gyfer plant 6 - 12 oed ac yn cael eu cynnal o 9:00 i 16:00 trwy gydol dyddiau'r wythnos yn ystod gwyliau ysgol.
Am ddim ond £20 y dydd bydd eich plentyn yn cael profi llawer o wahanol chwaraeon fel nofio, athletau, chwaraeon raced, pêl-droed, pêl-foli, criced, rygbi tag a llawer mwy!
Mae ein holl hyfforddwyr wedi’u hyfforddi ac mae ganddynt gymwysterau sy’n sicrhau bod eich plentyn yn gadael ar ôl dysgu sgiliau newydd a chael profiad gwych!
Beth sydd angen i'ch plentyn ddod i'n gwersylloedd?
Er mwyn iddynt gael y diwrnod gorau posib, gofalwch eich bod yn pacio:
- Potel ddŵr wedi'i llenwi
- Pecyn cinio (os ydych yn talu am fwyd poeth ni fydd angen hwn arnoch)
- Digon o fyrbrydau
- Gêr awyr agored ee cot, cap - os bydd yr haul allan byddwn bob amser yn anelu at fynd allan i gael rhywfaint o fitamin D
- Cit nofio (os yw eich plentyn dros 8 oed)
- Tywel a dillad i’w gwisgo ar ôl nofio
- Eli haul a het ar gyfer gwersylloedd y gwanwyn a’r haf
- Arian - mae gennym beiriannau slushie a pheiriannau gwerthu yn ein canolfan sydd bob amser yn boblogaidd
Pan fyddwch yn archebu lle i'ch plentyn mewn gwersylloedd bydd angen i chi lofnodi ffurflen gofrestru a rhoi rhagor o fanylion. Bydd hyn yn cael ei wneud ar y safle ar eich ymweliad cyntaf.
Heb ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch?
Os ydych angen help gydag unrhyw beth, ewch i’n canolfan gymorth neu cysylltwch â ni!