Cymunedau Iach Powys

Cymunedau Iach Powys

Croeso i Cymunedau Iach Powys

Fel ymddiriedolaeth nid-er-elw, mae cefnogi unigolion a chymunedau i fod yn iachach ac yn fwy ffit wrth wraidd ein holl waith. Rydyn ni’n credu mewn ‘iechyd i bawb o bob oed’; rydyn ni am i’n cymunedau gael hwyl, a theimlo bod croeso iddyn nhw a’u bod yn cael eu cynnwys a’u hysbrydoli i fyw bywydau iachus. The Freedom Leisure Powys Team provides a bespoke service to a range of local communities; young people, older adults, women and girls, those with disabilities or long-term illness, low-socioeconomic and ethnically diverse communities.

Rydym yn ystyried ein canolfannau yn Powys fel 'canolfannau lles'

Rydym yn ystyried ein canolfannau yn Powys fel 'canolfannau lles'

Gall cymunedau lleol gael mynediad at amrywiaeth o wasanaethau iechyd i'w cefnogi i gymryd mwy o reolaeth dros eu hiechyd a'u lles eu hunain. Rydym yn darparu rhaglen Cymunedau Iach sy’n rhoi cyfle i bobl o bob oed a gallu symud mwy a bod yn egnïol!

Rydym wedi ymrwymo i ymdrin ag anghydraddoldebau iechyd

Rydym wedi ymrwymo i ymdrin ag anghydraddoldebau iechyd

Mae ein tîm o arbenigwyr Cymunedau Iach yn dylunio rhaglenni wedi’u teilwra sy’n bodloni anghenion y boblogaeth leol ar draws cwrs bywyd; gan ddileu rhwystrau i gymryd rhan ac ymgysylltu â phawb waeth beth fo'u cefndir, rhyw, oedran, ethnigrwydd, gallu neu statws economaidd-gymdeithasol.

Mae ein gwasanaethau yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn fforddiadwy

Mae ein gwasanaethau yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn fforddiadwy

Credwn mewn:

  • Cefnogi pobl i fod yn gorfforol actif ym mha bynnag ffordd sy'n addas iddyn nhw
  • Cefnogi unigolion i atal a rheoli cyflyrau iechyd
  • Darparu cyfleoedd i gael profiadau cadarnhaol i gefnogi lles meddwl
  • Atal arwahanrwydd cymdeithasol, gan alluogi cymunedau lleol i ddod at ei gilydd

Cwestiynau Cyffredin

Heb ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch?

Os ydych angen help gydag unrhyw beth, ewch i’n canolfan gymorth neu cysylltwch â ni!