Mae’n amser parti
Parti Castell gwynt
Y parti pen-blwydd gorau erioed, a chyfle i fownsio gyda’ch ffrindiau ar y castell gwynt a’r sleid awyr.
Beth mae’r parti’n ei gynnwys?
Parcio ar y safle
Yn ystod y parti, gallwch barcio am ddim
Castell Gwynt
Gallwch fwynhau’r sleid awyr a’r castell gwynt sy’n rhan o becyn eich parti.
1 awr
Awr o hwyl yn bownsio ac yn creu atgofion
Wyddoch chi?
Mae blwyddyn yn cynnwys y swm enfawr o 30,000,000 eiliad; sydd yn amser hir iawn i ddisgwyl tan eich parti pen-blwydd nesaf.
Mae ein cyfleusterau yn hygyrch i bawb
Rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod ein canolfan yn darparu'r cyfleusterau gorau posibl. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod mynediad hygyrch i'n mannau agored a'u bod yn lân ac yn ddiogel i'w defnyddio.
Cyfleusterau cysylltiedig eraill sydd ar gael yn ein canolfan
Cyfleusterau newid a Chawodydd
Mae ein cyfleusterau newid a chawodydd yn lân ac yn hygyrch. Mae angen £1 ar gyfer y loceri.
Lluniaeth
Mae nifer o beiriannau ar gael sy’n cynnig diodydd cynnes ac oer a byrbrydau, rhag ofn eich bod eisiau bwyd ar ôl eich sesiwn.
Parcio
Parciwch am ddim yn ein canolfan pan fyddwch yn ein defnyddio.
Beth mae ein cwsmeriaid presennol yn ei ddweud
Tîm ardderchog. Cyfeillgar iawn. Gwybodus iawn. Clod i Freedom Leisure..
Tom P
Rwy'n defnyddio'r ganolfan 4 gwaith yr wythnos ar gyfer y gampfa. Cartref o gartref. Staff gwych a chyfleusterau gwych..
Sharon D
Mae'r staff yn gwrtais, yn gyfeillgar ac maent bob amser yn hapus i helpu gydag unrhyw faterion sy'n codi. Awyrgylch campfa gwych a mwynhewch….
Mary B.
Tîm gwych - dwi wrth fy modd yn mynd i'r dosbarthiadau - maen nhw'n ei wneud yn gymaint o hwyl. Campfa dda hefyd. Rwyf bob amser yn dweud wrth….
Anonymous
Cwestiynau Cyffredin
Oes mae’n rhaid trefnu pob parti ymlaen llaw. Gallwch ei drefnu ar-lein fan hyn hyd at 365 diwrnod ymlaen llaw, neu drwy ffonio 01792 235040.
Byddem yn argymell fod y Parti Bowns yn addas i blant dros 3 oed, hyd at 8 oed, er hynny, argymhelliad yn unig yw hyn.
Mae’r parti’n parhau am 1 awr.
Fel arfer, rydym yn cynnig cynnal partïon ar y penwythnos yn unig; fodd bynnag, os ydych eisiau ei gynnal yn ystod yr wythnos, cysylltwch â ni, a byddwn yn cadarnhau a yw’r dyddiad yn gyfleus ai peidio.
Oes, gallwch gael hyd at 40 o blant yn y parti yn ein canolfan
Yn anffodus na; fodd bynnag, gallwch ddod â chacen i’w thorri a’i rhannu mewn bagiau parti.
Gallwch dynnu lluniau o’ch parti, ond eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau fod pawb yn ymwybodol o hyn ymlaen llaw. Ni chaniateir tynnu ffotograffau tu allan i’r ardaloedd parti perthnasol.
Heb ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch?
Os ydych angen help gydag unrhyw beth, ewch i’n canolfan gymorth neu cysylltwch â ni!