Oedolyn Egnïol Ledled y Ddinas
Mynediad digyfyngiad i’r gampfa, nofio, dosbarthiadau ar draws 6 o ganolfannau Hamdden Abertawe ; hyfforddi mewn 6 campfa wych
Pam dewis aelodaeth Oedolyn Egnïol ledled y Ddinas?
Rydym yn fwy na champfa yn unig, ni yw'r gymuned weithgar fwyaf yn Abertawe gyda'n haelodaeth yn darparu cyfoeth o wahanol gyfleusterau a gweithgareddau sydd ar gael i chi. Rydym yn credu mewn hwyl dros ffitrwydd ac os ydych yn ymweld am y tro cyntaf neu wedi bod yn ymwelydd rheolaidd â champfa neu ganolfan hamdden, mae ein cydweithwyr yma i'ch helpu i gyflawni eich dyheadau ffitrwydd.
Mae ein tystebau cwsmeriaid yn llawn straeon gan bobl go iawn sydd wedi gwneud gwahaniaeth i'w hiechyd corfforol a meddyliol trwy fynychu eu canolfannau hamdden cymunedol lleol yn rheolaidd.
Byddwch yn actif, yn iach ac yn perthyn i Freedom Leisure Abertawe.
Yr hyn sydd wedi’i gynnwys yn yr Oedolyn Egnïol Ledled y Ddinas?
Croeso pedwar cam i aelodau
Bydd ein tîm ffitrwydd yn eich tywys trwy raglen pedwar cam brofedig i sicrhau eich bod yn cychwyn ar y droed dde tuag at gyrraedd eich nodau.
Mynediad at 6 campfa llawn cyfarpar
Cael mynediad i bob un o'n canolfannau yn Abertawe; LC, Penlan, Penyrheol, Treforys, Llandeilo Ferwallt a Chefn Hengoed.
Dros 300 o ddosbarthiadau ffitrwydd bob wythnos
Gallwch ddewis o dros 300 o ddosbarthiadau ffitrwydd bob wythnos ar draws y 6 chanolfan, gan gynnwys dosbarthiadau megis LesMills, Yoga, Bygi Blast a Zwmba.
Nofio am ddim mewn 4 pwll ar draws Abertawe
Ewch i'r dŵr a mwynhewch nofio AM DDIM ar draws ein canolfannau yn Abertawe.
Dechrau gyda ni heddiw
Mae aelodau ardderchog ein tîm yn barod i’ch helpu i ddechrau gyda’ch aelodaeth. Dechreuwch ar eich llwybr iechyd gyda ni heddiw.
Mae’r canlynol hefyd yn rhan o’n haelodaeth
Ap ‘MyWellness’
Teclyn tracio ar-lein/gwisgadwy sy’n caniatáu ichi hyfforddi, cofnodi a thracio eich sesiynau ymarfer ym mhob safle ac yn eich cartref, gan wneud y profiad o hyfforddi’n fwy llyfn
Cynllun atgyfeirio aelodau rhagorol
Cewch fis o aelodaeth AM DDIM ar gyfer pob unigolyn rydych yn ei argymell, sy’n mynd ymlaen i ymaelodi â ni
Nofio mewn 4 pwll
4 Pwll nofio yng nghanolfannau Penlan, Penyrheol, Treforys a’r LC er mwyn amrywio eich rhaglen hyfforddi, gan gynnwys nofio am ddim yn ystod sesiynau nofio mewn lonydd, nofio cyhoeddus, AquaTots, sesiynau hwyl a fflotiau a sesiynau llawn ym mharc dŵr canolfan LC (ar adegau penodol)
Parcio
Parciwch am ddim pan fyddwch chi'n hyfforddi
A llawer mwy
Gallwch fwynhau gostyngiad o 20% ar ddiodydd Costa Coffee yng nghanolfannau Penlan, Penyrheol, Treforys ac yn LC. Mae ein staff a ‘hyfforddwyd gan Costa Coffee’ yn falch i sicrhau y cewch baned berffaith o goffi a chroeso cynnes a chyfeillgar.
Mae ein tîm yn gyffrous i'ch croesawu
Mae ein cydweithwyr hyfryd yn gyffrous iawn i roi croeso cynnes i chi a rhoi taith i chi o amgylch ein holl gyfleusterau anhygoel.
Cwestiynau Cyffredin
Fel aelod ffitrwydd gyda ni byddwch chi’n derbyn amrywiaeth o fanteision ychwanegol fel: parcio am ddim wrth hyfforddi gyda ni ym mhob un o’n canolfannau (rhaid ymuno â’r LC er mwyn cael parcio am ddim yn yr LC).20% oddi ar Costa Coffee yn yr LC a chanolfannau Penlan, Penyrheol a Morriston. Rhaglen taith 4 cam i aelodau sy’n eich gosod ar ben ffordd i gyflawni eich nodau. Rhaglenni personol pwrpasol i’ch anghenion penodol chi, gyda’n cydweithwyr o’r radd flaenaf heb gost ychwanegol. Sesiynau adolygu’n gynwysedig gyda’r tîm pryd bynnag yr hoffech chi a chynifer o raglenni personol ag yr hoffech eu cael. Rhaglen atgyfeirio aelod pan gewch chi aelodaeth mis am ddim am bob ffrind rydych yn ei argymell sy’n ymuno â’n gym. Cyfraddau gostyngedig ecsgliwsif i raglenni iau a gweithgareddau gwyliau pan fyddwch yn bwcio ar gyfer eich plant
Fel aelod ffitrwydd gyda ni fe gewch chi fynediad at holl ganolfannau Abertawe gan gynnwys 6 gym a thros 300 o ddosbarthiadau ffitrwydd yr wythnos yng nghanolfannau LC Abertawe, Penlan, Penyrheol, Morriston, Bishopston a Chefn Hengoed, yn ychwanegol at hyn, gallwch nofio am ddim yn ystod y rhan fwyaf o’r sesiynau pwll (yr unig eithriad yw ein haelodaeth Gym a Dosbarthiadau yng Nghefn Hengoed sy’n rhoi mynediad i Gefn Hengoed yn Unig.) Os byddwch yn dewis aelodaeth arbenigol fel aelodaeth sba yn unig yn LC, aelodaeth nofio yn unig ym Mhenlan, Penyrheol neu Morriston neu aelodaeth sboncen yn unig ym Mhenyrheol yna bydd hyn yn rhoi mynediad i chi i’r gweithgaredd hwn yn unig ynghyd â’r manteision ychwanegol i aelodau.
Mae’n hawdd iawn ymuno a rhoi cychwyn arni am ei bod yn broses ar-lein. Gallwch un ai ymuno o gysur eich cartref a defnyddio’r ddolen hon a’r camau canlynol. Neu, os fyddai’n well gennych ddod i mewn i ymuno, galwch heibio’r ganolfan a bydd y tîm wrth law i’ch helpu chi i ymuno. Os hoffech wneud apwyntiad i ddod i mewn ac ymuno, ffoniwch y ganolfan a bydd y tîm wrth law i’ch helpu chi.
Mae taliadau aelodaeth yn digwydd drwy ddebyd uniongyrchol, fodd bynnag, mae rhai opsiynau blynyddol ar gael.
Wrth gwrs gallwch chi. Gallwch ddewis cael egwyl/ rhewi eich aelodaeth am bris o £5 y mis am y misoedd rydych yn eu dewis (dim mwy na thri mis) heb i ni ofyn unrhyw gwestiynau. Mae hwn yn opsiwn grêt os oes anaf arnoch neu os ydych chi’n mynd ar wyliau estynedig. Os ydych am rewi yna e-bostiwch lcswansea.enquiries@freedom-leisure.co.uk.
Os ydych chi’n meddwl am adael efallai y byddai’n well rhewi eich aelodaeth yn hytrach na’i ganslo’n llwyr achos byddwch yn aros ar eich pris aelodaeth cyfredol a allai arbed arian i chi pe byddech yn ailymuno yn y dyfodol. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am eich aelodaeth cysylltwch â’r ganolfan a bydd un o’r tîm yn dod yn ôl atoch cyn gynted ag y bo’n bosibl neu os ydych chi’n ystyried canslo cwblhewch y ffurflen hon. Nodwch fod yn rhaid eich bod chi wedi cwblhau hyd byrraf eich ymrwymiad a rhoi mis o rybudd cyn canslo.
Wrth gwrs, gallwch ymaelodi â’r gym o 11 mlwydd oed gyda’r un manteision aelodaeth grêt â’n haelodaeth i oedolion.
Maen nhw AM DDIM – rydym ni yma i’ch helpu chi i gyflawni canlyniadau felly does dim cost ar gyfer unrhyw gymorth yn ystod eich cyfnod fel aelod gyda ni.
Mae pob aelodaeth gyda ni (ac eithrio aelodaeth Gym neu Ddosbarthiadau Cefn Hengoed) yn rhoi mynediad i chi dros Abertawe i gyd, felly gallwch hyfforddi yn Bishopston, Cefn Hengoed, LC, Morriston, Penlan a Phenyrheol.
Barod i ymuno?
Mae aelodau ardderchog ein tîm yn barod i’ch helpu i ddechrau gyda’r aelodaeth, er mwyn i chi allu dod yn aelod o gymuned Freedom Leisure heddiw.!