Ein cyfleusterau awyr agored a chwaraeon
Archebion achlysurol
Mae chwaraeon yn dod â theuluoedd a ffrindiau at ei gilydd ac mae'n ddelfrydol ar gyfer gwella iechyd meddwl a chorfforol. Mae ein mannau awyr agored ar gael i'w defnyddio'n achlysurol trwy gydol y flwyddyn.
Clwb
Mae gennym nifer o glybiau lleol sy'n hyfforddi ac yn chwarae gemau ar ein meysydd awyr agored.
Beth sydd ar gael yn Elba?
Meysydd chwarae 3g
Mae gennym ddau faes chwarae 3g sy'n berffaith ar gyfer 5 bob ochr.
Llifoleuadau
Mae ein holl feysydd chwarae 3g awyr agored wedi'u llifoleuo
Cyfleusterau newid
Mynediad i wyth cyfleuster newid ac ystafell newid i swyddogion gan gynnwys cawodydd a thai bach.
Parcio
Parcio am ddim ar y safle
Meysydd Chwarae Glaswellt
Tri chae glaswellt maint llawn ar gyfer pêl-droed.
Maes rygbi glaswellt
Maes rygbi glaswellt maint llawn.
Criced
Wicedi criced yn berffaith ar gyfer hyfforddi.
Astro turf
Maes Astro turf maint llawn.
Maes bychan glaswellt
Maes pêl-droed glaswellt maint bychan.
Wyddoch chi?
Fod ymarfer corff yn llesol i fwy na’ch iechyd corfforol. Mae’n helpu gyda’ch iechyd meddwl hefyd. Gall treulio amser yn natur ac mewn golau naturiol wella eich hwyliau a lleihau straen ac iselder.
Mae ein cyfleusterau yn hygyrch i bawb
Rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod ein canolfan yn darparu'r cyfleusterau awyr agored gorau posibl. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod gan ein mannau awyr agored fynediad hygyrch a diogel i'w defnyddio.
Cyfleusterau cysylltiedig eraill sydd ar gael yn ein canolfan
Newid a Chawodydd
Mae gennym gyfleusterau newid a chawodydd glân a hygyrch.
Lluniaeth
Beth am aros am ychydig a chael bwyd neu ddiod. Rydym yn cadw amrywiaeth o ddiodydd oer, byrbrydau a hufen iâ.
Parcio
Parciwch y tu allan i'r ganolfan pan fyddwch yma gyda ni, mae gennym fannau hygyrch i bobl anabl hefyd.
Beth mae ein cwsmeriaid presennol yn ei ddweud
Yn rhyfeddol bod y ffensio i gyd wedi'i wneud, mae'r safle'n edrych mor daclus.
Brad O
Gwasanaeth gwych gyda thâl a chwarae ar gael i bawb.
Sandra D
Mae ystafelloedd newid bob amser yn lân ac mae staff bob amser yn barod i helpu ac yn gyfeillgar..
Jamie L
Caeau hawdd eu cyrraedd ac roedd yn wych ar gyfer ein gêm ddiweddar..
Marc L
Cwestiynau Cyffredin
Oes, rydym bob amser yn cynghori eich bod yn archebu ymlaen llaw trwy ein ffonio ar 01792 874424.
Gwisgwch esgidiau pêl-droed â stỳds rwber, astro neu lafn yn unig. Ni chaniateir treinyrs, esgidiau â stỳds neu bigynnau metel.
Gwisgwch esgidiau astro’n unig, ni chaniateir esgidiau â phigynnau, llafnau safonol neu esgidiau pêl-droed gyda stỳds metel neu blastig.