Y mathau o ddosbarthiadau rydyn ni'n eu gwneud
Holistig
Sy’n canolbwyntio ar ymlacio, lleihau tensiwn a thechnegau anadlu i gynnig sesiwn gydag elfen ychwanegol o lesiant, er enghraifft, Yoga.
Beicio Freedom
Beicio dan do, sy’n canolbwyntio ar ddygnwch, cryfder, egwylion, dwysedd uchel ac adfer.
Cardio
Dosbarthiadau sy’n gwneud i’ch calon guro, er enghraifft, bownsio ffit.
Cryfder
Dosbarthiadau sy’n gweithio ar y corff cyfan, gyda’r nod o wella cryfder a gwydnwch cyhyrol.
Hwyl
Hwyl trwy ffitrwydd, dosbarthiadau egnïol sy’n gwneud ichi deimlo’n anhygoel, er enghraifft, Zwmba.
Yn y pwll
Mae ein dosbarthiadau ffitrwydd fel aerobeg dŵr yn defnyddio gwrthiant ddŵr i roi tôn i gyhyrau ac adeiladu ffitrwydd
Oedolion hŷn – Aur
Rydym yn cynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau wedi eu cynllunio i’r rheini sy’n chwilio am ymarfer llai dwys wrth iddynt barhau i gadw’n actif, er enghraifft Cylchedau Aur.
Beth Sydd ar Gael Ar draws Abertawe?
Mae gennym dros 300 o ddosbarthiadau ffitrwydd yr wythnos ar draws Abertawe, i gyd wedi'u cynnwys yn ein haelodaeth ffitrwydd fel rhai safonol neu dim ond talu a chwarae.
Beth sydd ar gael yn Canolfan Hamdden Treforys?
Tîm o hyfforddwyr angerddol
Mae ein holl ddosbarthiadau yn cael eu harwain gan hyfforddwyr gan hyfforddwyr cymwys
Cynigion aelodaeth gwych
Os ydych chi'n bwriadu ein defnyddio ni fwy nag unwaith yr wythnos yna mae gennym ni aelodaethau cost effeithiol gwych
Rhywbeth i bawb
Os ydych yn dechrau, neu’n unigolyn sy’n hen law ar ffitrwydd, mae gennym ddosbarthiadau sy’n addas i bob gallu
3 lle gwych ar gyfer dosbarthiadau
Gan gynnwys ein Stiwdio A a B a Sportshall.
Pam cymryd rhan mewn dosbarthiadau?
Efallai mai'r peth gorau am ymarfer corff mewn grŵp yw'r union ffaith ei fod yn cael ei arwain gan weithiwr proffesiynol. Yn wahanol i fynd ar eich pen eich hun yn y gampfa neu gartref, mynychu dosbarth yw'r peth gorau nesaf i gael hyfforddwr personol, gan ei wneud yn ffordd wirioneddol fforddiadwy i dreulio amser gyda rhywun a all eich helpu i gyflawni eich ffitrwydd a nodau corff gwell.
Nid yn unig hynny, mae’n llawer o hwyl, gydag elfen gymdeithasol ychwanegol i’ch cadw’n llawn cymhelliant i ddychwelyd wythnos ar ôl wythnos a pharhau’n actif am gyfnod hwy.
Ydych chi wedi rhoi cynnig ar Zumba?
Nid yn unig y mae dosbarthiadau zumba yn hwyl ac yn ffordd gymdeithasol o gadw'n heini, ond byddwch hefyd yn llosgi hyd at 700 o galorïau yr awr.
Rhowch gynnig arni a theimlo'n well ar ei gyfer.
Mae ein cyfleusterau yn hygyrch i bawb
Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau fod ein canolfan yn cynnig y cyfleusterau awyr agored gorau posibl. Mae hyn yn cynnwys sicrhau fod ein mannau awyr agored yn hygyrch ac yn ddiogel i bawb.
Cyfleusterau cysylltiedig eraill sydd ar gael yn ein canolfan
Cyfleusterau newid a Chawodydd
We have clean & accessible change & shower facilities. Our lockers take a padlock, if you have forgotten yours you can buy on at reception.
Falch o weini coffi Costa
Eisteddwch yn ôl ac ymlaciwch gyda Costa Coffee blasus neu rywbeth i'w fwyta o'n Caffi.
Parcio
Parciwch y tu allan i'r ganolfan pan fyddwch chi yma gyda ni, mae gennym ni hefyd leoedd hygyrch i bobl anabl.
Beth mae ein cwsmeriaid presennol yn ei ddweud
We organise a wide variety of sporting programmes in partnership with local clubs and sponsor local talent..
Mary A.
Have fun.
Alex O
We organise a wide variety of sporting programmes in partnership with local clubs and sponsor local talent..
Mary B.
fsdlkhgf lghdlf ghldfgh. dflkghdflk g.
Alex
Cwestiynau Cyffredin
Oes, byddem yn argymell archebu lle ar ddosbarth ffitrwydd ymlaen llaw er mwyn osgoi siom pan fyddwch yn cyrraedd. Gallwch archebu ar-lein fan hyn hyd at 8 diwrnod ymlaen llaw, neu drwy ffonio 01792 797082.
Mae angen ichi fod yn 11 oed neu hŷn i ddefnyddio’r dosbarthiadau ffitrwydd, ar wahân i ddosbarthiadau pwysau, er enghraifft clychau tegell, a phwmp Freedom, lle mae gofyn ichi fod o leiaf 18 oed.
Rydym yn annog pobl o bob gallu a lefel ffitrwydd i ddod i’n dosbarthiadau; bydd ein hyfforddwyr cymwys yn teilwra’r dosbarthiadau i lefelau ffitrwydd amrywiol.
Oes; mae ein holl gynlluniau aelodaeth yn rhoi mynediad digyfyngiad i ddosbarthiadau yn y gampfa a rhai ffitrwydd nid yn unig yn ein canolfan ni, ond hefyd holl ganolfannau eraill Freedom Leisure ar draws Abertawe.
⭐ GAIR O GYNGOR! Os ydych chi’n bwriadu dod i 2 ddosbarth neu fwy bob wythnos, bydd cynllun Aelodaeth Ffitrwydd yn bendant yn arbed arian ichi yn y pen draw! A gyda chynllun aelodaeth, mae’n rhwydd archebu dosbarthiadau, eu diwygio neu eu canslo ar-lein!
Os nad ydych chi’n gallu dod i ddosbarth, gofynnir ichi roi cymaint o rybudd ag sy’n bosibl, o leiaf awr, oherwydd mae’n rhoi cyfle inni ryddhau llefydd ar gyfer cwsmeriaid eraill. Gall Aelodau Ffitrwydd ganslo neu ddiwygio dosbarthiadau ar-lein. Os ydych wedi talu ymlaen llaw ar gyfer eich dosbarth, cysylltwch â’r canolfan yn uniongyrchol i drefnu trosglwyddo i sesiwn arall. Nid ydym yn gallu rhoi ad-daliad ar gyfer dosbarthiadau a ganslwyd.
Os oes gennych offer penodol ar gyfer dosbarth, e.e. eich mat yoga neu gloch tegell eich hunan, byddem yn eich annog i ddod â’r rhain gyda chi, er mae digon o gyfarpar ar gael yn y canolfan ichi ei ddefnyddio. Byddem hefyd yn argymell dod â thywel gyda chi.
Fel rhan o’n ffocws amgylcheddol, byddem yn gofyn ichi ddod â photel dŵr y gellir ei ail-lenwi oherwydd mae gennym ffynhonnau dŵr yn y canolfan Ichi eu defnyddio i lenwi’ch potel.
Before starting, please seek medical advice from your GP as to the level of activity you should be doing and what is recommended for you. At the beginning of every class, please notify the instructor of any condition you may have.
Heb ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch?
Os ydych angen help gydag unrhyw beth, ewch i’n canolfan gymorth neu cysylltwch â ni!