Mae pyllau nofio a chanolfannau hamdden ledled y wlad dan fygythiad wrth i'r argyfwng ynni effeithio ar gymunedau ar draws y genedl. Mae'r cyfleusterau hyn yn darparu gwasanaeth hanfodol i bobl Cymru, ac maent yn hanfodol i les y wlad.
Drwy lofnodi'r ddeiseb hon byddwch yn galw ar y Senedd a Llywodraeth Cymru i gydnabod pa mor fregus yw pyllau nofio trwy ddarparu pecyn o gymorth ariannol wedi'i glustnodi y tu hwnt i’r Setliad Llywodraeth Leol Terfynol er mwyn sicrhau bod pyllau nofio yn parhau ar agor.