Nofio
Sesiwn Teulu-Gall un oedolyn ddod â 2 blentyn dan 4 oed i’r sesiynau arbennig hyn. Pris: Oedolyn £5.30 Plentyn Iau - £4.25. Gweler amserlen y pwll ar gyfer sesiynau.
Sesiwn Hwyl Sblasio yn y Dŵr-Gyda fflotiau, teganau a llwyth o hwyl, mae cyffro’n cael ei sicrhau yn y sesiynau hwyl a sblasio gwyllt yn y dŵr. Pris: Oedolyn £5.40 Plentyn Iau £4.35. Canllaw Oedran: Croeso i Bawb, mae’r polisi mynediad arferol i’r pwll yn berthnasol. Gweler amserlen y pwll am sesiynau
Nofio AM DDIM i blant a phobl ifanc dan 17 oed-Gall trigolion Powys sydd dan 17 oed nofio AM DDIM yn y sesiwn arbennig hwn. Mae’r polisi mynediad arferol i’r pwll yn berthnasol. Gweler amserlen y pwll ar gyfer sesiynau.
Gwersi Nofio
Gwersi Nofio Dwys-Dyma gyfle i wneud dechreuad gyda nofio yr Hanner Tymor hwn gyda 5 diwrnod o wersi nofio dwys. Ar gael i ddechreuwyr sydd eisiau ennill hyder yn y dŵr. Amser: 9:00-9:30 a 9:30-10:00. Pris: £24.60. Mae angen cadw lle gan fod y lleoedd sydd ar gael yn gyfyngedig.
Gwersi nofio un i un-Mae’r gwersi preifat hyn yn addas i ddechreuwyr neu’r sawl sydd eisiau gwella trwy ennill hyder neu ddatblygu techneg strociau. Pris: £24.70. Mae angen cadw lle gan fod y lleoedd sydd ar gael yn gyfyngedig.
Sesiwn Castell Gwynt
Dewch a llosgi ychydig o egni yn ein sesiynau castell gwynt.
Dydd Mercher 13:00-14:00 neu 14:00-15:00.
Pris: £3
Canllaw Oedran: Croeso i Bawb
Mae angen cadw lle gan fod y lleoedd sydd ar gael yn gyfyngedig.
Sesiwn Blas Achubwr Bywyd Rookie
Dewch i ddarganfod sut beth yw bod yn achubwr bywyd yn ein sesiwn llawn hwyl yn dysgu sgiliau newydd.
Dyddiau Mawrth 9:30-10:00, £6.15.
Canllaw Oedran: Rhaid bod yn Wave 7 neu allu nofio 100m.
Rhaid archebu lle am mai nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael.