Ar ddydd Sadwrn 25 a dydd Sul 26 Mawrth mae Canolfan Hamdden Rhaeadr yn gyffrous i agor eu drysau ar gyfer penwythnos agored i ddathlu carreg filltir wych o ben-blwydd yn 30 oed! Gyda dosbarthiadau ffitrwydd am ddim, gwersi nofio am ddim, paentio wynebau a chastell neidio, mae rhywbeth at ddant pawb!

“Rwyf wedi bod yn Rheolwr Gweithrediadau yma ers ychydig dros flwyddyn, mae wedi bod yn wych dod i adnabod y cwsmeriaid, llawer sydd wedi defnyddio’r ganolfan dros y 30 mlynedd diwethaf. Mae’r ganolfan yn ganolbwynt gweithgaredd ac mae’r gymuned yn ei charu’n fawr, o fabanod i bobl hŷn”

Theresa Lloyd

Rheolwr Gweithrediadau Canolfan Hamdden Rhaeadr

“Dechreuais weithio yn y ganolfan hamdden pan agorodd yn 1993. Roeddwn yn dderbynnydd ac yn achubwr bywydau i ddechrau, ac es ymlaen i fod yn rheolwr ar ddyletswydd, ac yn aseswr hyfforddwr RLSS. Nid oedd yn hir wedyn cyn i mi fynd ymlaen i fod yn athrawes nofio... ac mae'r gweddill yn hanes. Rydw i nawr yn mwynhau dysgu plant i blant rydw i wedi eu haddysgu”

Cheryl Lloyd

Os ydych chi'n cofio'r agoriad neu os oes gennych chi atgofion arbennig o dyfu i fyny yn defnyddio'r ganolfan rhowch wybod i'r ganolfan, byddai unrhyw luniau, fideos ac atgofion y gallech chi eu rhannu yn wych!

Am fwy o wybodaeth, i archebu’r dosbarthiadau rhad ac am ddim a’r amserlen lawn ffoniwch 01597 810355 neu ewch i facebook.