Aelodaeth Dysgu Nofio
Dewiswch o blith aelodaeth iau neu oedolion ar gyfer eich gwersi nofio
Pam dewis dysgu nofio gyda ni?
Mae ein tystebau cwsmeriaid yn llawn straeon gan bobl go iawn sydd wedi mynd trwy eu taith dysgu nofio gyda ni Byddwch yn actif, yn iach ac yn perthyn i Freedom Leisure Abertawe.
Yr hyn sydd wedi’i gynnwys yn yr Aelodaeth Dysgu Nofio?
Nofio am ddim
Mae nofio am ddim ar draws Abertawe wedi'i gynnwys fel rhan o'n hysgol nofio
Sesiynau strwythuredig
Un sesiwn yr wythnos yn dilyn llwybr Nofio Cymru, 50 wythnos y flwyddyn.
Porth Cartref
Gwybod pan fydd eich plentyn wedi cyflawni ei holl ddeilliannau ac yn barod i symud i fyny dosbarth.
20% oddi ar Coffi Costa
Mwynhewch 20% oddi ar holl ddiodydd Costa fel aelod yng nghanolfannau’r LC, Treforys, Penlan a Phenyrheol
Dechrau gyda ni heddiw
Mae aelodau ardderchog ein tîm yn barod i’ch helpu i ddechrau gyda’ch aelodaeth. Dechreuwch ar eich llwybr iechyd gyda ni heddiw.
Mae’r canlynol hefyd yn rhan o’n haelodaeth
Ap MyWellness
Teclyn tracio ar-lein/gwisgadwy sy’n caniatáu ichi hyfforddi, cofnodi a thracio eich sesiynau ymarfer ym mhob safle ac yn eich cartref, gan wneud y profiad o hyfforddi’n fwy llyfn
Parcio
Parcio am ddim ar y safle pan fyddwch yn hyfforddi gyda ni
Cynllun cyfeirio aelodau gwych
Mynnwch fis o aelodaeth AM DDIM i bob person rydych chi'n ei argymell sy'n mynd ymlaen i ymuno â ni
Nofio AM DDIM
Ewch i'r dŵr a mwynhewch nofio AM DDIM yn ein lonydd a sesiynau nofio cyhoeddus, acwatots a sesiynau hwyl a fflôt yn ein canolfannau Penlan, Penyrheol a Threforys. Yn yr LC gallwch fwynhau nofio am ddim yn ystod dwy awr olaf yr holl sesiynau nodwedd llawn, acwatots a sesiynau sblash cyffredinol.
A llawer mwy...
Mwynhewch 20% oddi ar ddiodydd Costa Coffee yn ein canolfannau Penlan, Penyrheol, Treforys ac LC. Mae ein staff ‘wedi’u hyfforddi gan Costa Coffee’ yn falch o warantu paned perffaith o goffi a chroeso cynnes a chyfeillgar.
Manylion Aelodaeth
Taliadau misol neu flynyddol
Dewiswch naill ai aelodaeth debyd uniongyrchol misol treigl neu opsiwn blynyddol ymlaen llaw
Pasbort i Hamdden
Rydym yn cynnig aelodaeth gyfradd ostyngol os oes gennych Basport i Hamdden (PTL) cysylltwch â ni i gael gwybod mwy
Cwestiynau Cyffredin
Oes, mae angen i chi fod yn aelod i ddysgu nofio gyda ni ar aelodaeth fisol neu opsiwn blynyddol. Rydym yn cynnal gwersi nofio dwys yn ystod cyfnodau gwyliau lle gallwch archebu lle os nad ydych yn aelod..
Telir ein holl aelodaeth dysgu nofio trwy ddebyd uniongyrchol i'w gwneud yn haws i chi. Mae opsiwn blynyddol os byddai'n well gennych.
Mae pawb sydd wedi cofrestru yn ein hysgol nofio wedi cynnwys nofio am ddim ar draws ein canolfannau yn Abertawe mewn nofio lonydd, nofio cyhoeddus, Aqua Tots a sesiynau hwyl a fflôt yng nghanolfannau Treforys, Penlan a Phenyrheol. Byddwch hefyd yn cael nofio am ddim yn LC Abertawe yn ystod Aqua Tots, sblash cyffredinol ac yn ystod y ddwy awr olaf o'r holl sesiynau nodwedd llawn.
Mae gennym borth cartref newydd sbon i rieni fewngofnodi a gweld cynnydd eu plentyn. Mae hyn yn wych ar gyfer rhoi gwybod i chi am feysydd y maent yn gwneud yn dda ynddynt a meysydd eraill y mae angen eu gwella y gallwch chi fel teulu eu hymarfer yn eich amser eich hun. Bydd y porth cartref yn rhoi gwybod i chi pan fydd eich plentyn wedi cyflawni ei holl ddeilliannau ac yn barod i symud dosbarth. Peidiwch ag anghofio ymweld â’r dderbynfa a all weld cyfrif eich plentyn a gweld pa fathodynnau a thystysgrifau y mae wedi’u cyflawni.
Mae'r Penlan yn dilyn Cynllun Dysgu Nofio Nofio Cymru. O fewn hwn rydym yn cynnig fframwaith Swigod ar gyfer 0-3 oed, fframwaith Sblash ar gyfer 3-5 oed a hefyd fframwaith Wave ar gyfer 4+ oed.
Mae'n syml iawn ymuno a dechrau arni gan ei bod yn broses ar-lein. Gallwch naill ai ymuno o gysur eich cartref eich hun gan ddefnyddio'r ddolen hon a dilyn y camau. Fel arall, os byddai’n well gennych chi ddod i’r ganolfan a bydd un o’n tîm yn gallu eich helpu i ymuno. Os hoffech wneud apwyntiad i ddod i ymuno, ffoniwch y ganolfan a bydd y tîm wrth law i helpu.
Mae ein gwersi'n dechrau o mor ifanc â 3 mis ac yn mynd ymlaen i wersi oedolion.
Ydym, rydym yn cynnig gwersi preifat 1:1 os hoffech gael y cymorth ychwanegol hwnnw i'ch plentyn.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’ch aelodaeth cysylltwch â’r ganolfan a bydd un o’r tîm yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl neu os ydych am ganslo, cwblhewch y ffurflen hon. Sylwch fod yn rhaid i chi roi mis o rybudd i ganslo.
Barod i ymuno?
Mae aelodau ardderchog ein tîm yn barod i’ch helpu i ddechrau gyda’r aelodaeth, er mwyn i chi allu dod yn aelod o gymuned Freedom Leisure heddiw.!