Mae’n amser parti
Fflotiau a Rafftiau
Gallwch ddefnyddio’r pwll am awr gyda fflotiau a rafftiau i ddiddanu’r plant cyn treulio awr yn ein hystafell barti. £88.75 i 25 o bobl.
Dingi Dwbwl y Trwbwl
Awr ar ein dingi “Dwbwl y Trwbwl” cyn treulio awr yn ein hystafell barti. £136.50 i 25 o bobl.
Parti Pêl-droed (3G)
Gallwch ddefnyddio’n pitch 3G am awr cyn treulio awr yn ein hystafell barti. £66.30
Partïon Nerf
Mae’r holl offer ar gael ar gyfer awr llawn hwyl yn chwarae gemau gyda gynnau Nerf cyn treulio awr yn ein hystafell barti. £265 i 20 o chwaraewyr.
Pêl-droed Swigod
Mae’r holl offer ar gael ar gyfer awr llawn hwyl yn chwarae gemau Pêl-droed swigod cyn treulio awr yn ein hystafell parti. £291.50 i 20 o chwaraewyr.
Tag Saethyddiaeth
Mae’r holl offer ar gael ar gyfer awr llawn hwyl yn chwarae gemau Tag Saethyddiaeth cyn treulio awr yn ein hystafell barti. £291.50 i 16 o chwaraewyr.
Excel Activity Group
Rydym hefyd yn partneru efo Excel Activity Group i gynnig amrywiaeth eang o opsiynau parti yn ein canolfan. Gallwch ddarganfod mwy ar eu gwefan.
Bwyd
Rydyn ni’n deall fod pob plentyn yn hoffi bwydydd gwahanol; o ystyried hyn, rydynni’n fodlon i chi ddod â’ch bwyd parti eich hun, p’un a yw’n fwyd oer neu’n fwyd cynnes o siop tecawê leol.
Oeddech chi’n gwybod?
Mis Awst yw’r mis geni mwyaf poblogaidd, sy’n cyfrif am bron i 9 y cant o’r holl benblwyddi yn y byd.
Yn ystod y flwyddyn ers eich pen-blwydd diwethaf, mae eich gwallt wedi tyfu bron i bum modfedd!
Nifer yr oedolion i bob plentyn
Mae’n bwysig ein bod yn eich cadw’n ddiogel yn ein pyllau.
Mae’n rhaid cael un oedolyn yn gwmni i bob plentyn o dan 4 oed.
Mae’n rhaid cael un oedolyn yn gwmni i bob dau blentyn sy’n 4, 5, 6 a 7 oed.
Gall plant dros 8 oed fynd i mewn i’r dŵr heb oruchwyliaeth oedolyn, ond rydyn ni’n argymell bod oedolyn yng nghwmni pob plentyn sydd ddim yn gallu nofio.
Hefyd mae gennym...
Cyfleusterau Newid a Chawodydd
Mae ein cyfleusterau newid a chawodydd glân a hygyrch yn cynnig ciwbicl newid i unigolion, teuluoedd a grwpiau.
Lluniaeth
Beth am aros am ychydig i fwynhau diod neu fyrbryd?
Siop
Mae’r holl hanfodion sydd eu hangen arnoch gennym mewn stoc gan gynnwys, gwisgoedd, napis nofio, gogls a chymhorthion nofio.
Beth mae ein cwsmeriaid yn ei ddweud amdanom ni
Rwyf wedi bod yn aelod yn Y Waun am dros 20+ o flynyddoedd erbyn hyn. Ymunais i gael ffordd iachus o fyw ac ar hyd y ffordd, rwyf wedi gwneud….
Un o'n cwsmeriaid hapus
Rwyf yn fy 70au. Rwyf yn nofio yng Nghanolfan Hamdden Y Waun. Mae’r buddion yn wych, ac rwyf yn teimlo wedi fy nghefnogi’n llwyr gan y staff….
Anonymous
…ac wedi ennill hyder, fel y gwnes i hyd yn oed gymryd rhan yn y ras tough mudder! Rwyf yn gweld yr holl hyfforddwyr yn broffesiynol iawn..
Anonymous
Ymunais yn ddiweddar â Chanolfan Hamdden Y Waun i wella fy ffitrwydd ac i helpu gyda cholli pwysau. Mae Sarah wedi sefydlu rhaglen i mi ac rwyf….
Annette Turner
Cwestiynau Cyffredin
Na, mae gennym nifer o gynlluniau aelodaeth gwych, ond gallwch hefyd dalu wrth ddefnyddio.
Ydi, mae gennym sesiynau nofio i’r cyhoedd bron bob dydd, ond cewch fwy o fanylion yn yr amserlen.
Mae’r gampfa fodern ar agor rhwng 7.00-22.00 dydd Llun a dydd Mercher, 6.30-22.00 dydd Mawrth a dydd Iau, 7.00-21.00 dydd Gwener, 8.45-17.00 dydd Sadwrn a 8:30-16:30 dydd Sul.
Oes, mae digon o le i barcio.
Ydym, mae gennym dros 20 o ddosbarthiadau’r wythnos gan gynnwys Les Mills. O BODYPUMP™ a Metafit™ i Aquafit™ a Ioga – mae rhywbeth i bawb.
Does dim angen cadw lle ar gyfer y dosbarthiadau ymarfer grŵp heblaw’r dosbarth troelli. I gadw lle ar gyfer y dosbarth hwn, a’r cae 3G a’r neuadd chwaraeon, galwch 01691 778666.
Dim eto, ond fe ddaw cyn bo hir! Gwyliwch y lle hwn.
Ydyn, rydym yn cynnal dosbarthiadau Dysgu Nofio i bawb o bob gallu. Holwch yma.
Gallwch. Mae yna safle bws ychydig cyn Lôn y Capel sydd ond tafliad carreg i’r ganolfan.
Oes, mae gennym ni beiriant coffi a gallwch gymryd eich paned i’ch canlyn neu ei fwynhau yn ein hardal eistedd. Mae yna beiriannau gwerthu yma ac mae diodydd oer ar gael.
Mae’r cynllun aelodaeth iau yn dechrau o 11 oed. Mae pawb yn gallu defnyddio’r pwll ond rhaid cadw at y nifer gywir o oedolion a phlant.
Heb ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch?
Os ydych angen help gydag unrhyw beth, ewch i’n canolfan gymorth neu cysylltwch â ni!