Beth sydd ar gynnig ar draws Wrecsam?
Gall yr holl aelodau cysylltiedig gael mynediad at ddosbarthiadau o fewn holl ganolfannau Wrecsam neu gael mynediad yn syml at ddosbarth wrth i chi gymryd rhan!
Les Mills
Mae Les Mills yn mynd â ffitrwydd hyd at y lefel nesaf gydag ymarferion corff o’r radd flaenaf, gyda cherddoriaeth, symudiadau a hyfforddwyr gorau’r byd.
Holistaidd
Yn canolbwyntio ar ymlacio, lleihau tensiwn a thechnegau anadlu i gynnig sesiwn ymarfer corff gyda dos ychwanegol o lesiant. Yn cynnwys Ioga a BODYBALANCE™.
Stiwdio MyRide
Seiclo dan do yn y stiwdio seiclo gorau o fewn y rhanbarth. Yn canolbwyntio ar ddygnwch, cryfder, egwyliau, dwysedd uchel ac adferiad. Ymunwch â ni am ddosbarthiadau rhithiol a dan arweiniad hyfforddwr.
Cardio
Dosbarthiadau i annog eich calon i bwmpio, er enghraifft HIIT, BODYATTACK™ a BODYCOMBAT™ gyda Les Mills.
Cryfder
Dosbarthiadau ymarferion llawn i’r corff a ddyluniwyd i wella cryfder cyhyrau a dygnwch megis Kettlebells, Circuits, Metafit a BODYPUMP™ gyda Les Mills.
Hwyl
Dosbarthiadau hwyl dros ffitrwydd, gyda’r nod o’ch annog i fod yn actif tra’n teimlo’n anhygoel, er enghraifft Zumba a BODYJAM™ gyda Les Mills.
Yn y pwll
Mae ein dosbarthiadau ffitrwydd megis erobeg dŵr, loncian a chylchedau yn defnyddio ymwrtheddd y dŵr i dynhau’r cyhyrau ac i feithrin ffitrwydd.
Oedolion hŷn
Rydym yn cynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau sydd wedi’u dylunio ar gyfer y sawl sy’n chwilio am ddwysedd is tra’n cadw’n actif, megis Cylchedau EasyLine a dosbarthiadau Aur Freedom.
Omnia
Sesiynau hyfforddi gweithredol, dan arweiniad hyfforddwr neu hyfforddiant unigol. Mae Omnia 8 ar gael yn ein campfa ym Myd Dŵr.
Beth sydd ar gynnig ar draws Wrecsam?
Gall yr holl aelodau cysylltiedig gael mynediad at ddosbarthiadau o fewn holl ganolfannau Wrecsam neu gael mynediad yn syml at ddosbarth wrth i chi gymryd rhan!
Oeddech chi’n gwybod?
Mae llawer o fanteision i gymryd rhan mewn grŵp dosbarth ffitrwydd yn cynnwys eich iechyd cymdeithasol. Mae ymarfer corff mewn grŵp yn meithrin hyder, ac yn eich helpu i ennill cefnogaeth a chymhelliant.
Mae ein cyfleusterau’n hygyrch i bawb
Rydym yn gweithio’n ddiwyd i sicrhau fod ein canolfan yn cynnig y cyfleusterau ffitrwydd gorau posibl. Mae hyn yn cynnwys sicrhau mynediad hygyrch i’n mannau a’u bod yn lân ac yn ddiogel i’w defnyddio.
Beth mae ein cwsmeriaid yn ei ddweud amdanom ni
...gallaf deimlo budd fy ymarfer corff i lefel fy ffitrwydd ac rwy’n teimlo’n well nawr nag yr oeddwn i yn fy nhridegau!.
Emma H
Daliais y byg ffitrwydd yn gyflym a dechreuais fuddsoddi yn fy siwrnai ffitrwydd..
Lauren E
Diolch am wella fy hyder, fy ffitrwydd a fy iechyd a’m lles..
Anna J
Mae’n swnio’n ystrydeb ond mae cael y cartref newydd hwn i ymarfer corff wedi bod yn chwa o awyr iach yn llythrennol i’m bywyd.
Graeme B
Cwestiynau Cyffredin
Na, mae gennym nifer o gynlluniau aelodaeth gwych, ond gallwch hefyd dalu wrth ddefnyddio.
Oes, mae digon o le i barcio.
Ffoniwch ni ar 01978 822978 neu e-bostiwch ruabon@freedom-leisure.co.uk
Dim eto, ond fe ddaw cyn bo hir! Gwyliwch y lle hwn.
Nid yma ond rydym yn cynnig gwersi nofio yng Nghanolfan Byd Dŵr, Gwyn Evans a’r Waun.
Ydyn, a gyda ein haelodaeth gysylltiedig gallwch hefyd fynychu dosbarthiadau yn ein canolfannau eraill yn Wrecsam.
Heb ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch?
Os ydych angen help gydag unrhyw beth, ewch i’n canolfan gymorth neu cysylltwch â ni!