Mae’n amser parti
Parti Pêl-droed
Drwy ddewis yr opsiwn hwn, cewch ddefnyddio ein neuadd chwaraeon am 90 munud. Dewch â'ch bwyd a'ch diod eich hun! £56
Parti Pwll
Cewch ddefnyddio ein pwll nofio am awr. Gallwch ychwanegu sesiwn yn ein neuadd chwaraeon am £27.55 yn fwy. £73 i hyd at 30 o bobl.
Parti Pwll
Allwch chi rasio i’r llinell derfyn ar ein dingi anferthol? 1 awr gyda’n dingi llawn hwyl ac yna awr yn ein neuadd chwaraeon lle gallwch ddod â’ch bwyd eich hun. £161 i hyd at 30 o bobl.
Bwyd
Rydyn ni’n deall fod pob plentyn yn hoffi bwydydd gwahanol; o ystyried hyn, rydynni’n fodlon i chi ddod â’ch bwyd parti eich hun, p’un a yw’n fwyd oer neu’n fwyd cynnes o siop tecawê leol.
Oeddech chi’n gwybod?
Mis Awst yw’r mis geni mwyaf poblogaidd, sy’n cyfrif am bron i 9 y cant o’r holl benblwyddi yn y byd.
Yn ystod y flwyddyn ers eich pen-blwydd diwethaf, mae eich gwallt wedi tyfu bron i bum modfedd!
Nifer yr oedolion i bob plentyn
Mae’n bwysig ein bod yn eich cadw’n ddiogel yn ein pyllau.
Mae’n rhaid cael un oedolyn yn gwmni i bob plentyn o dan 4 oed.
Mae’n rhaid cael un oedolyn yn gwmni i bob dau blentyn sy’n 4, 5, 6 a 7 oed.
Gall plant dros 8 oed fynd i mewn i’r dŵr heb oruchwyliaeth oedolyn, ond rydyn ni’n argymell bod oedolyn yng nghwmni pob plentyn sydd ddim yn gallu nofio.
Hefyd mae gennym...
Cyfleusterau Newid a Chawodydd
Mae ein cyfleusterau newid a chawodydd glân a hygyrch yn cynnig ciwbicl newid i unigolion, teuluoedd a grwpiau.
Lluniaeth
Beth am aros am ychydig i fwynhau diod neu fyrbryd?
Siop
Mae’r holl hanfodion sydd eu hangen arnoch gennym mewn stoc gan gynnwys, gwisgoedd, napis nofio, gogls a chymhorthion nofio.
What our customers say about us
Mae'r staff yn anhygoel a dweud y gwir mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n gwybod fy enw i nawr, maen nhw mor gyfeillgar..
Sharon
Diolch am wella fy hyder, fy ffitrwydd a fy iechyd a’m lles..
Anna J
Diolch i’r staff i gyd am wneud i mi deimlo’n gartrefol a bod croeso i mi, rydych chi'n dîm anhygoel xx.
Sharon W
Ers colli pwysau a dod yn fwy heini gallaf nawr gario fy merch i fyny'r grisiau i'r gwely. Mae hynny'n amhrisiadwy..
Anonymous
Cwestiynau Cyffredin
Na, mae gennym nifer o gynlluniau aelodaeth gwych, ond gallwch hefyd dalu wrth ddefnyddio.
Ydi, mae gennym sesiynau nofio i’r cyhoedd bron bob dydd, ond cewch fwy o fanylion yn yr amserlen.
Mae’r gampfa fodern ar agor rhwng 8.30-21.00 dydd Llun i ddydd Iau, 8.30-20.30 dydd Gwener a 9.00-16.30 ar benwythnosau.
Oes, mae digon o le i barcio.
Ydym, mae gennym amrywiaeth o ddosbarthiadau bob wythnos, megis Zumba, Metafit, Aqua fit, cylchedau a llawer mwy. Mae rhywbeth at ddant pawb!
Mae gennym neuadd chwaraeon fawr felly ‘does dim angen cadw lle ar gyfer y dosbarthiadau grŵp. Gallwch archebu’r neuadd chwaraeon neu drefnu parti trwy ffonio 01978 269540
Dim eto, ond fe ddaw cyn bo hir! Gwyliwch y lle hwn.
Ydyn, rydym yn cynnal dosbarthiadau Dysgu Nofio i bawb o bob gallu. Holwch yma.
Gallwch, mae’r ganolfan nepell o First Avenue yng Ngwersyllt ac mae bysus yn rhedeg yn rheolaidd.
Mae gennym beiriannau gwerthu nwyddau a man eistedd lle gallwch weld y pwll.
Mae’r cynllun aelodaeth iau yn dechrau o 11 oed. Mae pawb yn gallu defnyddio’r pwll ond rhaid cadw at y nifer gywir o oedolion a phlant.
Heb ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch?
Os ydych angen help gydag unrhyw beth, ewch i’n canolfan gymorth neu cysylltwch â ni!