Pam ymuno â’n gym?
Aelodaeth heb gontract
Mae aelodaeth hyblyg i bawb gennym heb unrhyw gontract, gwiriwch ein tudalen Aelodaeth am ragor o fanylion.
Straeon Llwyddiant
Mae tystebau ein cwsmeriaid yn llawn straeon llwyddiant oddi wrth bobl go iawn sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’w hiechyd corfforol a meddyliol.
Offer o’r Radd Flaenaf
Mae gennym offer o’r radd flaenaf a phroffesiynol ym mhob gym. Mae’r offer wedi ei wneud gan TchnoGym sy’n gyflenwyr swyddogol Olympaidd.
Talu pan fo angen
Ddim yn barod i ymrwymo am aelodaeth misol eto? Peidiwch â phoeni! Gallwch dalu pan fo angen ym mhob Gym ledled Wrecsam.
Aelodaeth Gysylltiedig
Mynediad di-ben-draw i’r gampfa, pwll nofio a dosbarthiadau ar draws Wrecsam
Ymarfer Grŵp
Mae ein dosbarthiadau yn rhoi’r cyfle i chi ymarfer, tra'n cael eich arwain gan hyfforddwr cymwys gan elwa o'r cymhelliant a'r hwyl y mae gweithio allan ochr yn ochr ag eraill yn ei roi.
Offer Hygyrch
Mae ein achrediad Menter Ffitrwydd Cynhwysol yn darparu llwyfan cynhwysol i bobl anabl ac abl i fod yn actif gyda’i gilydd.
Wyddech chi?
Mae llai o risg datblygu cyflyrau hir dymor (cronig), fel clefyd y galon, diabetes math 2, a rhai mathau o ganser, os yw pobl yn gwneud ymarfer corff yn rheolaidd.
Mae ymchwil yn dangos fod gweithgaredd corfforol hefyd yn gallu hybu hunan barch, tymer, ansawdd cwsg ac ynni, yn ogystal â lleihau eich risg o stres, iselder clinigol, dementia a chlefyd Alzheimer.
Mae ein cyfleusterau’n hygyrch i bawb
Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod ein canolfan yn darparu’r cyfleusterau ffitrwydd gorau posibl. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod gan ein gwagleoedd fynediad hygyrch a’u bod yn lân ac yn ddiogel i’w defnyddio.
Mae gan holl offer hyfforddiant cryfder yn y gym farc cam dau Menter Ffitrwydd Cynhwysol. Mae’r marc hwn yn golygu fod yr offer hwn yn gwbl hygyrch i bob gallu.
Mae achrediad Menter Ffitrwydd Cynhwysol yn llwyfan cynhwysol i bobl anabl ac abl i fod yn actif gyda’i gilydd.
Ydych chi wedi meddwl am?
Beth mae ein cwsmeriaid yn ei ddweud amdanom ni
Mae’n swnio’n ystrydeb ond mae cael y cartref newydd hwn i ymarfer corff wedi bod yn chwa o awyr iach yn llythrennol i’m bywyd.
Graeme B
Mae’r holl staff yno mor barod i helpu ac yn gyfeillgar, maen nhw’n gwneud i mi deimlo croeso bob tro..
Wendy J
Diolch am wella fy hyder, fy ffitrwydd a fy iechyd a’m lles..
Anna J
..gallaf deimlo budd fy ymarfer corff i lefel fy ffitrwydd ac rwy’n teimlo’n well nawr nag yr oeddwn i yn fy nhridegau!.
Emma H
Cwestiynau Cyffredin
Na, mae gennym nifer o gynlluniau aelodaeth gwych, ond gallwch hefyd dalu wrth ddefnyddio.
Mae’r gampfa o’r radd flaenaf ar agor rhwng 17.00-22.00 nos Lun tan nos Iau, 17.00-21.30 nos Wener ac 8.00 – 12.00 ar benwythnosau.
Oes, mae digon o le i barcio.
Nid yma ar hyn o bryd ond gyda’r cynllun aelodaeth cysylltiedig gallwch fynd i ddosbarthiadau yng nghanolfannau eraill Wrecsam.
Ffoniwch ni ar 01978 262787 neu e-bostiwch clywedoglc@freedom-leisure.co.uk
Dim eto, ond fe ddaw cyn bo hir! Gwyliwch y lle hwn.
Nid yma ond rydym yn cynnig gwersi nofio yng Nghanolfan Byd Dŵr, Gwyn Evans a’r Waun.
Heb ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch?
Os ydych angen help gydag unrhyw beth, ewch i’n canolfan gymorth neu cysylltwch â ni!