Trefnwyd yr ymweliad gan Gyrfa Cymru, i grŵp o fyfyrwyr fynd ar daith tu ôl i’r llenni yn y Byd Dŵr, i’w helpu magu hyder i fynd i’r ganolfan yn eu hamser hamdden eu hunain er mwyn profi’r cyfoeth o weithgareddau ffitrwydd ac iechyd da sydd ar gael yno.  Yn ogystal, roedd cyfle i drafod yr ystod eang o gyfleoedd gwaith sydd ar gael ym maes hamdden gyda chydweithwyr y ganolfan, oedd yno i ateb unrhyw gwestiynau oedd ganddynt.

Mae Byd Dŵr Wrecsam yn cael ei redeg mewn partneriaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Wrecsam gan Freedom Leisure, ymddiriedolaeth hamdden di-elw sy’n rhedeg naw o ganolfannau hamdden ar draws Wrecsam megis Gwyn Evans, Y Waun, a Stadiwm Queensway.

Mae Ysgol St Christopher yn cynnig addysg i ddisgyblion 6-19 oed sydd ag ystod o anghenion dysgu a datblygu cymhleth, gan gynnwys anghenion dwys a chymhleth, awtistiaeth, anawsterau dysgu difrifol ac anawsterau dysgu cymedrol.

Dywed Lesley Lloyd ar ran Gyrfa Cymru:

“Diolch i Freedom Leisure am roi cyfle i ddisgyblion Ysgol St Christopher gael cyflwyniad gyrfaoedd a thaith o gwmpas y Byd Dŵr.  Mae pobl ifanc yn elwa’n fawr o ymweliadau fel hyn, o ran magu hyder, a’u sgiliau cyfathrebu yn ogystal ag ymwybyddiaeth o’r byd gwaith”

Yn ôl Richard Milne, Rheolwr Ardal Wrecsam ar ran Freedom Leisure, “Roedd yn wych cael croesawu disgyblion St Christopher i’r Byd Dŵr, roedd yn hyfryd gallu dangos yr adeilad eiconig yn Wrecsam iddynt, ac ateb eu cwestiynau; edrychwn ymlaen at eu croesawu eto yn y dyfodol agos.”

Ar draws Wrecsam, mae dros filiwn o ymweliadau â’r canolfannau, ac mae’r gymuned amrywiol yn mwynhau amrywiaeth o ddosbarthiadau ffitrwydd, sesiynau nofio a sesiynau Campfa, gan sicrhau fod cymuned leol Wrecsam yn egnïol er mwyn gwella eu hiechyd corfforol yn ogystal ag iechyd meddwl a llesiant.