Daeth cwsmeriaid a chydweithwyr ynghyd ar gyfer diwrnod llawn gweithgareddau, gyda ‘Ras Hwyaid’ i gychwyn yr hwyl! Hwyliodd 100 o hwyaid i lawr sleid ddŵr y Byd Dŵr, sy’n mesur 65 metr o hyd, gyda hwyaden rhif 5 yn ennill teitl y ‘Pencampwr’!

Ymhlith gweithgareddau teuluol eraill oedd ar gael i’r cannodd o bobl oedd yn bresennol ar y diwrnod oedd ‘Bore Coffi’, a ‘Splash-a-thon’ oedd yn cynnig llwyth o weithgareddau hwyl yn y dŵr.

Yn ogystal, gofynnwyd i gwsmeriaid roi eu harian locer at yr achos, a derbyniwyd rhoddion trwy gydol y dydd, gan godi cyfanswm o £306.37 ar gyfer Sefydliad Prydeinig y Galon, sy’n parhau i ymchwilio i glefydau’r galon a chlefydau cylchredol.

Trwy gydol mis Chwefror mae’r Byd Dŵr wedi cefnogi ‘Mis y Galon’ Sefydliad Prydeinig y Galon trwy annog cwsmeriaid a staff i ‘wisgo rhywbeth coch’ ac mae plant wedi ychwanegu ychydig o liw i’r caffi a’r dderbynfa trwy arddangos eu gweithiau celf, yn sgil cyflwyno cystadleuaeth lliwio hynod boblogaidd – mae’r holl weithiau creadigol i’w gweld yn y Byd Dŵr.

“Cawsom bleser enfawr wrth gymryd rhan ym ‘Mis y Galon’ Sefydliad Prydeinig y Galon. Creodd yr hwyaid llwyth o hwyl ar y ffliwm, a deifio i’r dŵr cyflym wedyn. Roedd hi mor hyfryd derbyn ac arddangos y negeseuon o gariad yn ffenestri’r dderbynfa i bawb eu gweld. Ac rydym yn hapus iawn ein bod wedi codi arian hollbwysig ar gyfer Sefydliad Prydeinig y galon trwy’r rhoddiion a’r bore coffi.”

Felicity Griffiths

Rheolwr Cyffredinol Byd Dŵr

“Dymuna bawb yn Nofio Cymru longyfarch tîm Byd Dŵr Wrecsam a phawb oedd yn rhan o’u gweithgareddau codi arian. Rydym yn falch iawn i fod yn bartner Sefydliad Prydeinig y Galon yn ystod y mis ar gyfer Her Nofio 60, felly pleser o’r mwyaf yw gweld ein partneriaid Freedom Leisure yn galluogi’r gymuned i ddod ynghyd, bod yn weithgar yn y dŵr a chodi arian hollbwysig ar gyfer y Sefydliad.”

Victoria Waters

Rheolwr Partneriaethau a Chyfranogiad Nofio Cymru