Mwynhewch ein stiwdio seiclo MyRide ardderchog
Gall pob aelod gael mynediad i’n Stiwdio MyRide neu gallwch dalu fesul sesiwn!
Dosbarthiadau Byw Dan Arweiniad Hyfforddwr
Mae hyfforddwyr byw yn creu amgylchedd llawn egni i danio’ch brwdfrydedd a’ch helpu i gael y gorau o’ch sesiwn.
Sesiynau Rhithwir
Bydd eich hyfforddwr ar y sgrin drwy gydol y sesiwn i’ch addysgu a’ch galluogi i ganolbwyntio ar dechneg a ffurf gywir.
Chi yw’r bos
Gallwch grwydro tiroedd mynyddig Ffrainc neu fentro ar lwybrau anghysbell yr Unol Daleithiau. Mae’r sesiynau ar gael hyd yn oed pan nad oes dosbarth wedi’i drefnu, gyda neu heb hyfforddwr rhithwir.
Amserlenni
Oeddech chi’n gwybod?
Oeddech chi’n gwybod bod dosbarthiadau sbin yn gallu llosgi 400-600 o galorïau mewn sesiwn 40 munud?
Hefyd mae gennym...
Cyfleusterau Newid a Chawodydd
Mae ein cyfleusterau newid a chawodydd glân a hygyrch yn cynnig ciwbicl newid i unigolion, teuluoedd a grwpiau.
Lluniaeth
Beth am aros am ychydig i fwynhau diod neu fyrbryd?
Beth mae ein cwsmeriaid yn ei ddweud amdanom ni
Am flynyddoedd, rwyf wedi cael anawsterau gyda’m pwysau, sydd wedi achosi problemau hyder. Pan gyrhaeddais 21 stôn, penderfynais mai digon oedd….
Calum R
Mae’r holl staff yno mor barod i helpu ac yn gyfeillgar, maen nhw’n gwneud i mi deimlo croeso bob tro.
Wendy J
Rwy’n hapusach ynof fy hunan, mae gen i fwy o hyder ac mae’r gampfa yn anhygoel.
Debra D
Fe fyddwn yn argymhell unrhyw un o’r dosbarthiadau ym Myd Dŵr, mae llawer i ddewis ohonynt.
Fran K
Cwestiynau Cyffredin
Na, mae gennym nifer o gynlluniau aelodaeth gwych, ond gallwch hefyd dalu wrth ddefnyddio.
Ydi, mae gennym sesiynau nofio i’r cyhoedd bron bob dydd, ond cewch fwy o fanylion yn yr amserlen.
Mae’r gampfa fodern ar agor rhwng 6.30-21.30 dydd Llun i ddydd Iau, 6.30-21.00 dydd Gwener a 9.00-17.00 ar benwythnosau.
Mae gennym faes parcio mawr, sy’n cael ei redeg gan y cyngor lleol; rhagor o fanylion ar gael yma. Caniateir parcio am ddim am 2 awr ar ôl 16:00, dewch heibio’r dderbynfa i gasglu tocyn.
Ydym, mae gennym dros 60 o ddosbarthiadau yr wythnos gydag rhaglen amrywiol gan gynnwys Les Mills. O Bodypump a Metafit i Aqua, mae rhywbeth at ddant pawb ac mae’r tîm elît o hyfforddwyr wrth law i’ch helpu chi ar eich taith.
Ar gyfer ymarferion grŵp gallwch ddefnyddio ap symudol MyWellness neu galw 01978 297300. ‘Sdim angen cadw lle i ddefnyddio’r pwll.
Dim eto, ond fe ddaw cyn bo hir! Gwyliwch y lle hwn.
Ydyn, rydym yn cynnal dosbarthiadau Dysgu Nofio i bawb o bob gallu. Holwch yma.
Gallwch, nid ydym yn bell iawn o Orsaf Fysiau Wrecsam.
Oes, rydym yn gwerthu cynnyrch Costa. Diodydd poeth, diodydd oer, hufen ia, brechdanau, dewis iach a llawer mwy.
Mae’r cynllun aelodaeth iau yn dechrau o 11 oed. Mae pawb yn gallu defnyddio’r pwll ond rhaid cadw at y nifer gywir o oedolion a phlant.
Heb ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch?
Os ydych angen help gydag unrhyw beth, ewch i’n canolfan gymorth neu cysylltwch â ni!