Beth yw rig hyfforddi OMNIA?
Mae Rig Hyfforddi Omnia gan Technogym yn gyfleuster ymarfer aml-ddefnydd sy'n cynnig ystod o ymarferion ar gyfer sesiwn hyfforddi hwyliog ac effeithiol. Mae'n cyfuno symudiad swyddogaethol ac ymarferion curiad y galon, wedi'i deilwra i anghenion unigol a gall ddarparu ar gyfer 8 o bobl ar unrhyw un adeg.
Dosbarthiadau Campfa OMNIA yn Wrecsam
Er mwyn sicrhau bod y dosbarthiadau'n addas ar gyfer amrywiaeth eang o bobl rydym yn cynnig 3 math o raglenni OMNIA
OMNIA™ SYMUD
I bobl sydd am gael gwell egni yn eu bywyd bob dydd a theimlo’n ffit, ac yn rhydd i symud ym mhob ffordd.
OMNIA™ HYFFORDDI
I bobl sydd am losgi calorïau, hyfforddi fel athletwr, gweithio ar eu cyhyrau a gwella’u perfformiad corfforol.
OMNIA™ CHWARAE
I bobl sydd am gadw’n heini a’u hysbrydoli mewn grŵp er mwyn gweld canlyniadau hirdymor a budd i’w ffordd o fyw.
Buddion hyfforddiant OMNIA
Mae ein hyfforddiant OMNIA yn canolbwyntio ar symudiadau swyddogaethol wedi eu cyfuno gydag ymarferion curiad y galon ar gyfer ymarfer corff personol ac effeithiol.
Mae gennym hefyd....
Cyfleusterau Newid a Chawodydd
Daw ein cyfleusterau newid a chawodydd glân a hygyrch gyda gofodau newid ar gyfer unigolion, teuluoedd a grwpiau.
Lluniaeth
Beth am aros ychydig yn hirach am ddiod neu fyrbryd ar ôl eich sesiwn OMNIA?
Beth mae ein cwsmeriaid yn ei ddweud amdanom ni
Am flynyddoedd, rwyf wedi cael anawsterau gyda’m pwysau, sydd wedi achosi problemau hyder. Pan gyrhaeddais 21 stôn, penderfynais mai digon oedd….
Calum R
Rwy’n hapusach ynof fy hunan, mae gen i fwy o hyder ac mae’r gampfa yn anhygoel.
Debra D
Fe fyddwn yn argymhell unrhyw un o’r dosbarthiadau ym Myd Dŵr, mae llawer i ddewis ohonynt.
Fran K
..gallaf deimlo budd fy ymarfer corff i lefel fy ffitrwydd ac rwy’n teimlo’n well nawr nag yr oeddwn i yn fy nhridegau!.
Emma H
Cwestiynau Cyffredin
Na, mae gennym amrediad o becynnau aelodaeth gwych ond gallwch hefyd dalu wrth ddefnyddio.
Ydy, mae sesiynau nofio i’r cyhoedd ar gael ar y rhan fwyaf o ddiwrnodau ond gwiriwch ein hamserlen am fwy o fanylion.
Mae ein campfa fodern ar agor 6:30-21:30 o ddydd Llun i ddydd Iau, 6:30-21:00 dydd Gwener a 9-17:00 ar y penwythnosau
Oes, mae gennym ddigon o le parcio ar gael, sydd am ddim ar ôl 11yb.
Ydym, mae gennym dros 60 o ddosbarthiadau yr wythnos gyda rhaglen amrywiol, yn cynnwys Les Mills. O BODYPUMP a Metafit i Aerobeg Dŵr ac Oedolion Actif, mae rhywbeth i bawb ac mae ein tîm elît o hyfforddwyr yno i'ch helpu ar eich taith.
Ar gyfer Ymarfer Grŵp, gallwch ddefnyddio'r Ap Symudol ‘MyWellness’ neu ffonio 01978 297300. Nid oes angen archebu lle ar gyfer nofio.
Oes, mae gennym yr Ap MyWellness ar gyfer y gampfa ac archebu ymarfer corff grŵp a byddwn yn lansio ap newydd yn y dyfodol agos!
Ydym, mae ein dosbarthiadau Dysgu Nofio hynod boblogaidd ar gael ar gyfer pob gallu. Ymholwch yma os gwelwch yn dda.
Gallwch, rydyn ni o fewn ychydig funudau ar droed o Orsaf Fysiau Wrecsam.
Oes, rydym yn gwerthu cynnyrch Costa. Diodydd poeth, diodydd oer, hufen iâ, brechdanau, opsiynau iach a llawer mwy.
Mae ein Haelodaeth Iau yn dechrau o 11 mlwydd oed. Gall pob oedran ddefnyddio'r pwll ond mae’n rhaid cadw at y nifer gywir o oedolion i bob plentyn.
Gall OMNIA 8 wella eich ffitrwydd mewn sawl ffordd. P'un ai eich nod o’i ddefnyddio yw hyfforddiant craidd, adeiladu cryfder neu wella symudedd, gall yr offer gwych hwn gan Technogym eich helpu i gyflawni eich amcanion ffitrwydd.
Byddem yn argymell gwisgo dillad cyfforddus sy'n anadlu ac sy'n caniatáu symud yn hawdd. Dylech osgoi dillad rhy llac neu emwaith sy'n hongian rhag iddynt gael eu dal yn yr offer. Byddem hefyd yn argymell bod gwallt hir yn cael ei glymu'n ôl.
Gallwch ddefnyddio’r OMNIA bob dydd. Edrychwch ar amseroedd agor ein campfa am fanylion.
Heb ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch?
Os ydych angen help gydag unrhyw beth, ewch i’n canolfan gymorth neu cysylltwch â ni!