Beth sydd ar gael o ran dosbarthiadau ffitrwydd yn Wrecsam?
Trwy ymaelodi, gallwch fwynhau mynediad at ddosbarthiadau ffitrwydd ar unwaith yn holl ganolfannau Wrecsam, neu gellir talu fesul sesiwn!
Dosbarthiadau Yoga Wrecsam
Mae Yoga yn ymarfer hynafol sy’n cyfuno ystumiau corfforol, ymarferion anadlu a myfyrdod i hyrwyddo lles holistaidd. Trwy gydgordio’r meddwl, y corff a’r ysbryd mae yoga’n cynnig nifer o fuddion sy’n cyfrannu at wella iechyd corfforol, cydnerthedd meddyliol a chydbwysedd emosiynol.
Dosbarthiadau Zwmba Wrecsam
Mae’r ysbryd parti yn eich helpu i ddawnsio’r ffordd i ffitrwydd! Cyfle i fwynhau symudiadau a goreograffwyd yn seiliedig ar ffurfiau dawns amrywiol Lladin-Americanaidd, megis y Salsa a’r Samba, a byddwch yn barod i losgi nifer ddifrifol o galorïau!
Les Mills
Mae Les Mills yn mynd â ffitrwydd i’r lefel nesaf gyda sesiynau ymarfer o’r radd flaenaf, a cherddoriaeth orau’r byd, y symudiadau gorau a’r hyfforddwyr gorau. Ymhlith y dosbarthiadau mae BODYPUMP™, BODYJAM™ a rhagor.
Stiwdio MyRide
Seiclo dan do yn stiwdio seiclo gorau Wrecsam. Mae’n canolbwyntio ar ddygnwch, cryfder, seibiannau, dwysedd uchel ac adfer. Ymunwch â ni ar gyfer sesiynau dan arweiniad hyfforddwr neu ddosbarthiadau rhithiol.
Cardio
Dosbarthiadau ffitrwydd egni uchel sy’n annog y galon i guro, er enghraifft: HIIT, BODYATTACK™ a BODYCOMBAT™ Les Mills.
Aerobeg Dŵr
Mae’r dosbarthiadau ffitrwydd megis aerobeg dŵr, loncian a chylchedau yn defnyddio gwrthsafiad y dŵr i ffyrfhau cyhyrau a magu ffitrwydd.
Oedolion hŷn
Mae ystod o ddosbarthiadau ar gael ar gyfer pobl sy’n chwilio am sesiynau is eu dwysedd, ond sy’n eich cadw’n egnïol yr un pryd, megis ein sesiynau Aerobeg Dŵr i rai 60+.
Holistaidd
Yn canolbwyntio ar ymlacio, lleihau tensiwn a thechnegau anadlu i gynnig sesiwn ymarfer corff gyda dos ychwanegol o lesiant. Yn cynnwys Ioga a BODYBALANCE™.
Cryfder
Dosbarthiadau ymarferion llawn i’r corff a ddyluniwyd i wella cryfder cyhyrau a dygnwch megis Kettlebells, Circuits, Metafit a BODYPUMP™ gyda Les Mills.
Hwyl
Dosbarthiadau hwyl dros ffitrwydd, gyda’r nod o’ch annog i fod yn actif tra’n teimlo’n anhygoel, er enghraifft Zumba a BODYJAM™ gyda Les Mills.
Omnia
Sesiynau hyfforddi gweithredol, dan arweiniad hyfforddwr neu hyfforddiant unigol. Mae Omnia 8 ar gael yn ein campfa ym Myd Dŵr.
Beth sydd ar gynnig ar draws Wrecsam?
Gall yr holl aelodau cysylltiedig gael mynediad at ddosbarthiadau o fewn holl ganolfannau Wrecsam neu gael mynediad yn syml at ddosbarth wrth i chi gymryd rhan!
Yr amserlen ffitrwydd
Oeddech chi’n gwybod?
Mae llawer o fanteision i gymryd rhan mewn grŵp dosbarth ffitrwydd yn cynnwys eich iechyd cymdeithasol. Mae ymarfer corff mewn grŵp yn meithrin hyder, ac yn eich helpu i ennill cefnogaeth a chymhelliant.
Mae ein cyfleusterau’n hygyrch i bawb
Rydym yn gweithio’n ddiwyd i sicrhau fod ein canolfan yn cynnig y cyfleusterau ffitrwydd gorau posibl. Mae hyn yn cynnwys sicrhau mynediad hygyrch i’n mannau a’u bod yn lân ac yn ddiogel i’w defnyddio.
Ydy dosbarthiadau ffitrwydd werth yr ymdrech?
Mae llawer o fuddion ynghlwm wrth gymryd dosbarth ffitrwydd fel grŵp. Nid yn unig mae’n weithgaredd cymdeithasol gwych, ond gall eich helpu hefyd i fagu hyder, colli pwysau, gwella eich iechyd a ffitrwydd cyffredinol, ac mae hyn yn oed yn helpu i feithrin cymorth a chymhelliant.
Hefyd mae gennym...
Cyfleusterau Newid a Chawodydd
Mae ein cyfleusterau newid a chawodydd glân a hygyrch yn cynnig ciwbicl newid i unigolion, teuluoedd a grwpiau.
Lluniaeth
Ar ôl sesiwn nofio, beth am ddod i fwynhau paned neu fyrbryd yn ein caffi ar y safle
Beth mae ein cwsmeriaid yn ei ddweud amdanom ni
Mae’r dosbarthiadau yn wych, mae’r gampfa mor braf a’r holl bobl yn hyfryd.
Michelle J
..gallaf deimlo budd fy ymarfer corff i lefel fy ffitrwydd ac rwy’n teimlo’n well nawr nag yr oeddwn i yn fy nhridegau!.
Emma H
Mae’r holl staff yno mor barod i helpu ac yn gyfeillgar, maen nhw’n gwneud i mi deimlo croeso bob tro.
Wendy J
Rwy’n hapusach ynof fy hunan, mae gen i fwy o hyder ac mae’r gampfa yn anhygoel.
Debra D
Cwestiynau Cyffredin
Nag oes, mae ystod o gynlluniau aelodaeth gwych ar gael, ond hefyd gallwch dalu fesul gwers.
Ydy, mae sesiynau nofio cyhoeddus ar gael bron dydd bron, ond byddai’n ddoeth gwirio’r amserlen am ragor o fanylion.
Wrth gwrs!. Mae’r gampfa ar agor 6:30-21:30 Dydd Llun - Iau, 6:30-21:00 ar ddydd Gwener, a 9-17:00 ar y penwythnos
Oes, mae digonedd o lefydd parcio ar gael, a gellir parcio am ddim ar ôl 11am.
Ar gyfer sesiynau Ymarfer Grŵp, gellir defnyddio Ap Symudol MyWellness neu ffonio 01978 297300. Nid oes angen archebu lle i nofio.
Oes, defnyddir yr Ap MyWellness ar gyfer y gampfa a sesiynau ymarfer grŵp a byddwn yn lansio ap newydd yn y dyfodol agos!
Ydym, mae’r dosbarthiadau Dysgu Nofio hynod boblogaidd ar gael i bobl o bob gallu. Ceir mwy o fanylion yma.
Gallwch, gellir cerdded yma mewn ychydig o funudau o Orsaf Fysiau Wrecsam.
Oes, Mae’r caffi Costa yn gweini diodydd poeth, diodydd oer, a byrbrydau – perffaith ar gyfer gwefr ar ôl dosbarth ymarfer!
Mae’r cynlluniau Aelodaeth Iau yn dechrau o 11 oed. Gall pobl o bob oed ddefnyddio’r pwll, ond byddwn yn arfer cymarebau oedolyn:plant.
Ydym – cymerwch gip ar ein hamserlen i weld pryd mae’r sesiynau Aerobeg Dŵr yn digwydd, neu cysylltwch â’r ganolfan am ragor o wybodaeth.
Seilir y nifer ddelfrydol o ddosbarthiadau ffitrwydd bob wythnos ar nodau a lefelau ffitrwydd yr unigolyn dan sylw. I ddechreuwyr, gall dau neu dri dosbarth yr wythnos gynnig sail gytbwys heb fod yn ormod i’r corff. Hwyrach y bydd unigolion ar lefel ganolradd neu uwch yn gwneud pedwar – chwe dosbarth, sy’n cynnwys dyddiau gorffwys a mathau amrywiol o sesiynau ymarfer er mwyn osgoi gorhyfforddi a rhoi amser i gyhyrau adfer.
Ydym, mae ystod eang o ddosbarthiadau ffitrwydd gyda’r hwyr ar gael trwy gydol yr wythnos. Gweler yr amserlen ar gyfer y manylion llawn.
Cynhelir ystod o ddosbarthiadau seiclo dan do yn Stiwdio MyRide trwy gydol yr wythnos. Cymerwch gip ar yr amserlen ar gyfer y manylion llawn. Os hoffech ddefnyddio cyfleusterau’r stiwdio tu allan i amser dosbarthiadau, dylech siarad ag aelod o’n staff cyfeillgar, a bydd yn gallu trefnu sesiwn rhithiol ichi.
Trwy ddod yn aelod, gallwch fwynhau ystod eang o gynigion a buddion. Mae’r cynllun Aelodaeth Gysylltiedig yn ddelfrydol ar gyfer unigolion sydd am gael mynediad at dros 100 o ddosbarthiadau ymarfer grŵp bob wythnos ar draws canolfannau Wrecsam, ynghyd â chymorth personol, unigol gan ein harbenigwyr ffitrwydd.
I fanteisio ar un o’n pecynnau Aelodaeth gwych, ewch draw i’r dudalen Aelodaeth, dewis yr opsiwn sy’n addas ichi, a phwyso’r botwm ‘Gwnewch Ymholiad Nawr’.
Cynhelir ein holl wersi ffitrwydd yng Nghanolfan Hamdden a Gweithgareddau Byd Dŵr, Stryd Holt, Wrecsam, LL13 8DH. Hefyd mae amrediad o ddosbarthiadau gwych yn eich chwaer-leoliadau yng Nghanolfan Hamdden a Gweithgareddau’r Waun a Chanolfan Hamdden a Gweithgareddau Gwyn Evans.
Heb ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch?
Os ydych angen help gydag unrhyw beth, ewch i’n canolfan gymorth neu cysylltwch â ni!