Mae'r rhaglenni sy'n cael eu rhedeg gennym yn cynnwys: ymarfer corff drwy atgyfeirio, rhaglenni rheoli pwysau, atal cwympiadau, adferiad cardiaidd a llawer mwy.
Os oes gennych ddiddordeb i gael eich cyfeirio at eich rhaglen Atgyfeirio Iechyd lleol, cysylltwch â Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff neu eich meddyg teulu lleol i gael gwybod mwy.
Beth mae ein cwsmeriaid yn ei ddweud amdanom ni
Mae’r holl staff yno mor barod i helpu ac yn gyfeillgar, maen nhw’n gwneud i mi deimlo croeso bob tro.
Wendy J
Mae’r dosbarthiadau yn wych, mae’r gampfa mor braf a’r holl bobl yn hyfryd.
Michelle J
Rwy’n hapusach ynof fy hunan, mae gen i fwy o hyder ac mae’r gampfa yn anhygoel.
Debra D
..gallaf deimlo budd fy ymarfer corff i lefel fy ffitrwydd ac rwy’n teimlo’n well nawr nag yr oeddwn i yn fy nhridegau!.
Emma H
Cwestiynau Cyffredin
Na, mae gennym nifer o gynlluniau aelodaeth gwych, ond gallwch hefyd dalu wrth ddefnyddio.
Ydi, mae gennym sesiynau nofio i’r cyhoedd bron bob dydd, ond cewch fwy o fanylion yn yr amserlen.
Mae’r gampfa fodern ar agor rhwng 6.30-21.30 dydd Llun i ddydd Iau, 6.30-21.00 dydd Gwener a 9.00-17.00 ar benwythnosau.
Mae gennym faes parcio mawr, sy’n cael ei redeg gan y cyngor lleol; rhagor o fanylion ar gael yma. Caniateir parcio am ddim am 2 awr ar ôl 16:00, dewch heibio’r dderbynfa i gasglu tocyn.
Ydym, mae gennym dros 60 o ddosbarthiadau yr wythnos gydag rhaglen amrywiol gan gynnwys Les Mills. O Bodypump a Metafit i Aqua, mae rhywbeth at ddant pawb ac mae’r tîm elît o hyfforddwyr wrth law i’ch helpu chi ar eich taith.
Ar gyfer ymarferion grŵp gallwch ddefnyddio ap symudol MyWellness neu galw 01978 297300. ‘Sdim angen cadw lle i ddefnyddio’r pwll.
Dim eto, ond fe ddaw cyn bo hir! Gwyliwch y lle hwn.
Ydyn, rydym yn cynnal dosbarthiadau Dysgu Nofio i bawb o bob gallu. Holwch yma.
Gallwch, nid ydym yn bell iawn o Orsaf Fysiau Wrecsam.
Oes, rydym yn gwerthu cynnyrch Costa. Diodydd poeth, diodydd oer, hufen ia, brechdanau, dewis iach a llawer mwy.
Mae’r cynllun aelodaeth iau yn dechrau o 11 oed. Mae pawb yn gallu defnyddio’r pwll ond rhaid cadw at y nifer gywir o oedolion a phlant.
Heb ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch?
Os ydych angen help gydag unrhyw beth, ewch i’n canolfan gymorth neu cysylltwch â ni!