Pam Ymuno â’n Campfa Byd Dŵr?
Dim Cytundebau Aelodaeth
Mae gennym aelodaeth hyblyg i bawb heb gytundeb. Gwiriwch ein tudalen aelodaeth am fwy o fanylion.
Straeon Llwyddiant
Mae tystebau ein cwsmeriaid yn llawn straeon llwyddiant gan bobl go iawn sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i'w hiechyd corfforol a meddyliol.
Offer o’r Radd Flaenaf
Mae gan bob un o'n campfeydd offer proffesiynol o'r radd flaenaf. Wedi eu gwneud gan Technogym sy'n gyflenwyr swyddogol i'r Gemau Olympaidd.
Cydweithwyr Cyfeillgar
Mae ein cydweithwyr cyfeillgar a chwbl gymwysedig wrth law i'ch tywys drwy'r offer a'ch helpu i gyflawni eich amcanion a'ch dyheadau.
Talu wrth ddefnyddio
Ddim yn barod i ymrwymo i aelodaeth mis? Na phoener! Gallwch dalu yn ôl eich defnydd o’n campfeydd ledled Wrecsam.
Aelodaeth Gysylltiedig
Mae hyn yn rhoi'r hawl i chi gael mynediad diderfyn i ddosbarthiadau campfa, nofio a ffitrwydd ledled Wrecsam.
Ymarfer Grŵp
Mae ein dosbarthiadau'n eich galluogi i wneud ymarfer corff, tra'n cael eich arwain gan hyfforddwr cymwys ac elwa o'r cymhelliant a'r hwyl y mae gweithio ochr yn ochr ag eraill yn ei roi.
Offer Hygyrch
Mae ein hachrediad MFfC (Menter Ffitrwydd Cynhwysol) yn darparu llwyfan cynhwysol i bobl anabl ac abl i fod yn actif gyda'i gilydd.
Oeddech chi’n gwybod?
Mae gan bobl sy'n ymarfer corff yn rheolaidd lai o risg o ddatblygu llawer o gyflyrau (cronig) hirdymor, fel clefyd y galon, clefyd siwgr math 2, strôc, a rhai mathau o gancr.
Dengys ymchwil y gall gweithgarwch corfforol hefyd hybu hunan-barch, hwyliau, ansawdd cwsg ac egni, yn ogystal â lleihau eich risg o straen, iselder clinigol, dementia a chlefyd Alzheimer.
Mae ein cyfleusterau campfa yn Wrecsam yn hygyrch i bawb
Rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod Byd Dŵr yn darparu'r cyfleusterau ffitrwydd gorau posibl. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod ein campfeydd yn hygyrch a'u bod yn lân ac yn ddiogel i'w defnyddio.
Mae gan yr holl offer ymarfer cryfder yn y gampfa farc MFfC (Menter Ffitrwydd Cynhwysol) cam dau. Mae'r marc hwn yn golygu bod yr offer yn gwbl hygyrch i bob gallu.
Mae'r achrediad MFfC (IFI) yn darparu llwyfan cynhwysol i bobl anabl ac abl i fod yn actif gyda'i gilydd.
Mae gennym hefyd....
Cyfleusterau Newid a Chawodydd
Daw ein cyfleusterau newid a chawodydd glân a hygyrch gyda gofodau newid ar gyfer unigolion, teuluoedd a grwpiau.
Lluniaeth
Ar ôl eich sesiwn yn y gampfa, beth am aros ychydig yn hirach am ddiod neu fyrbryd?
Ydych chi wedi meddwl am?
Beth mae ein cwsmeriaid yn ei ddweud amdanom ni
Fe fyddwn yn argymhell unrhyw un o’r dosbarthiadau ym Myd Dŵr, mae llawer i ddewis ohonynt.
Fran K
Mae’r holl staff yno mor barod i helpu ac yn gyfeillgar, maen nhw’n gwneud i mi deimlo croeso bob tro.
Wendy J
Am flynyddoedd, rwyf wedi cael anawsterau gyda’m pwysau, sydd wedi achosi problemau hyder. Pan gyrhaeddais 21 stôn, penderfynais mai digon oedd….
Calum R
..gallaf deimlo budd fy ymarfer corff i lefel fy ffitrwydd ac rwy’n teimlo’n well nawr nag yr oeddwn i yn fy nhridegau!.
Emma H
Cwestiynau Cyffredin
Na, mae gennym amrediad o becynnau aelodaeth gwych ond gallwch hefyd dalu wrth ddefnyddio.
Ydy, mae sesiynau nofio i’r cyhoedd ar gael ar y rhan fwyaf o ddiwrnodau ond gwiriwch ein hamserlen am fwy o fanylion.
Mae ein campfa fodern ar agor 6:30-21:30 o ddydd Llun i ddydd Iau, 6:30-21:00 dydd Gwener a 9-17:00 ar y penwythnosau
Oes, mae gennym ddigon o le parcio ar gael, sydd am ddim ar ôl 11yb.
Ydym, mae gennym dros 60 o ddosbarthiadau yr wythnos gyda rhaglen amrywiol, yn cynnwys Les Mills. O BODYPUMP a Metafit i Aerobeg Dŵr ac Oedolion Actif, mae rhywbeth i bawb ac mae ein tîm elît o hyfforddwyr yno i'ch helpu ar eich taith.
Ar gyfer Ymarfer Grŵp, gallwch ddefnyddio'r Ap Symudol ‘MyWellness’ neu ffonio 01978 297300. Nid oes angen archebu lle ar gyfer nofio.
Oes, mae gennym yr Ap MyWellness ar gyfer y gampfa ac archebu ymarfer corff grŵp ac ap Freedom Leisure y gellir ei lawrlwytho yma.
Ydym, mae ein dosbarthiadau Dysgu Nofio hynod boblogaidd ar gael ar gyfer pob gallu. Ymholwch yma os gwelwch yn dda.
Gallwch, rydyn ni o fewn ychydig funudau ar droed o Orsaf Fysiau Wrecsam.
Oes, rydym yn gwerthu cynnyrch Costa. Diodydd poeth, diodydd oer, hufen iâ, brechdanau, opsiynau iach a llawer mwy.
Mae ein Haelodaeth Iau yn dechrau o 11 mlwydd oed. Gall pob oedran ddefnyddio'r pwll ond mae’n rhaid cadw at y nifer gywir o oedolion i bob plentyn.
Byddem yn argymell gwisgo dillad cyfforddus sy’n anadlu ynghyd ag esgidiau ymarfer corff sy'n darparu cefnogaeth gwrth-lithro addas. Dylid clymu gwallt hir yn ôl hefyd ac osgoi gwisgo gemwaith hir sy’n hongian a dillad rhy llac, oherwydd gallent gael eu dal yn yr offer.
Mae mynd i'r gampfa yn cynnig llawer o fanteision i'ch iechyd a'ch lles. Mae rhai o'r buddion hyn yn cynnwys:
- Gwella eich system cardiofasgwlaidd a lleihau'r risg o glefyd y galon a strôc
- Cryfhau'ch cyhyrau a'ch esgyrn ac atal osteoarthritis a chwympo
- Cynnal eich pwysau ac atal gordewdra a diabetes
- Rhoi hwb i’ch hwyliau a'ch hunan-barch
Gallwch ddod o hyd i’n campfa yn Byd Dŵr, Holt Street, Wrecsam, LL13 8DH. Ymaelodwch a gallwch hefyd fwynhau mynediad i’n holl gampfeydd ar draws Wrecsam, yn cynnwys:
- Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Gwyn Evans
- Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Y Waun
- Stadiwm Queensway
- Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Clywedog
Heb ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch?
Os ydych angen help gydag unrhyw beth, ewch i’n canolfan gymorth neu cysylltwch â ni!