Pwll 25 metr 6 lôn
‘Lazy River Rapids’
Llithren ddŵr 65 metr
Pwll Digwyddiadau ac i ddysgwyr
Pwll swigod ymlaciol
Partion pen-blwydd
Sesiynau hwyl ar yr offer gwynt
Dydd Sadwrn 3:30-4:30
Nofio i'r Teulu ar y Penwythnos
Am £16.99 yn unig i deulu o 4 a £2.25 am blentyn ychwanegol, beth sydd yn eich stopio chi? Dewch i’r Byd Dŵr, Wrecsam i dreulio amser da a chael hwyl gyda’r teulu y penwythnos hwn. Ar agor 9-5 dydd Sadwrn a dydd Sul.
Gwersi Nofio
Rydym yn cynnig amrywiaeth o wersi nofio i oedolion a phlant. Mae ein holl wersi yn ceisio datblygu nofwyr hyderus a chymwys drwy hwyl a mwynhad. Rydym yn anelu at y lefel uchaf o hyder yn y dŵr, ac o ran sgil a thechnegau nofio.
Nifer yr oedolion i bob plentyn
Mae’n bwysig ein bod yn eich cadw’n ddiogel yn ein pyllau.
Rhaid i blant sy’n iau nag 8 oed fod yng nghwmni oedolyn gyda 2 blentyn am bob 1 oedolyn. Mae hyn yn golygu y gall un oedolyn ddod â 2 blentyn iau nag 8 oed i nofio yn ein canolfan.
Gall plant sy’n 8 oed a hŷn ddod i’r dŵr heb unrhyw oruchwyliaeth oedolyn. Fodd bynnag rydym ni’n argymell os na all rywun nofio ei fod yn cael ei oruchwylio gan oedolyn ar bob adeg.
Dillad Nofio
Rydym yn croesawu cwsmeriaid sy’n gwisgo gwisgoedd nofio, ffrogiau nofio, bicinis, gwisgoedd tankinis, gwisgoedd burkinis, siwtiau cynnal gwyleidd-dra,Trowsusau nofio, siorts nofio. Yn ychwanegol at wisgoedd nofio, gall cwsmeriaid wisgo crysau-t gyda lycra ynddynt (llawes hir neu fyr), siorts neu legins
Rhaid i fabanod a phlant bach nad ydynt eto’n defnyddio’r toiled wisgo clwt/cewyn nofio o dan ddillad nofio priodol megis clwt nofio neoprene, siwt nofio neu siwt nofio gwlyb (wetsuit).
Rydym yn gofyn i gwsmeriaid wisgo dillad sy’n gorchuddio eu corff yn ddigonol ac nad ydynt yn dryloyw pan fyddant yn wlyb. Ceisiwch ymatal rhag gwisgo dillad isaf/ gwaelod bicini steil thong, Eitem denim, trwm a/neu ddillad llac, Dillad wedi’u gwneud o gotwm.
Argymhellir tynnu unrhyw emwaith cyn nofio.
Prisiau Gweithgareddau
Oedolyn
£7.50
Plentyn
£5.00
Hên/ myfyrwyr
£5.00
Teulu 2+2
£16.99
Dyddiadau Cau Gala Nofio 2025
Dydd Sul 9 Mawrth
Dydd Sadwrn a Dydd Sul 5/6 Ebrill
Dydd Sul 15 Mehefin
Dydd Sul 2 Tachwedd
Amserlenni
Beth mae ein cwsmeriaid yn ei ddweud amdanom ni
Am flynyddoedd, rwyf wedi cael anawsterau gyda’m pwysau, sydd wedi achosi problemau hyder. Pan gyrhaeddais 21 stôn, penderfynais mai digon oedd….
Calum R
Mae’r dosbarthiadau yn wych, mae’r gampfa mor braf a’r holl bobl yn hyfryd.
Michelle J
Mae’r holl staff yno mor barod i helpu ac yn gyfeillgar, maen nhw’n gwneud i mi deimlo croeso bob tro.
Wendy J
Rwy’n hapusach ynof fy hunan, mae gen i fwy o hyder ac mae’r gampfa yn anhygoel.
Debra D
Cwestiynau Cyffredin
No, we have a range of fantastic memberships but you can also pay as you go.
Yes, we have public swimming most days but please check out our timetable for more details.
Yes, our incredibly popular Learn to Swim classes are available for all abilities. Please enquire here.
Yes, we serve Costa. Hot drinks, cold drinks, ice creams, sandwiches, healthy options and much more.
No need to book for swimming.
Heb ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch?
Os ydych angen help gydag unrhyw beth, ewch i’n canolfan gymorth neu cysylltwch â ni!