Y mathau o wersi nofio sydd ar gael
Gwersi Nofio i Blant
Yn cael eu harwain gan hyfforddwyr cymwys, cyfeillgar, mae’r gwersi nofio i blant yn dilyn fframwaith Dysgu Nofio Cymru a byddant yn helpu eich plentyn i ddatblygu’n nofiwr cryf, hyderus.
Gwersi Nofio i Fabanod
Mae’r gwersi nofio ar gyfer babanod yn helpu babanod 3 mis oed a hŷn i arfer â’r dŵr mor gynnar â phosibl, gan fagu hyder a datblygu’r seiliau mewn perthynas â dysgu nofio.
Gwersi Nofio i Oedolion
Rydym yn cynnig gwersi dechreuwyr i oedolion neu sesiynau gwella strôc ar gyfer nofwyr mwy datblygedig.
Gwersi Nofio Dwys
Gallwn ddarparu sesiynau nofio mwy dwys, yn ystod gwyliau ysgol yn bennaf, er mwyn 'cyflymu' cynnydd eich plentyn.
Gwersi Nofio Preifat
Os byddai’n well gennych chi neu’ch plentyn gael strwythur gwersi mwy personol, gallwn gynnig gwersi nofio unigol.
Gwersi Nofio Cymraeg
Rydym wrth ein bodd yn gweithio mewn partneriaeth gydag Urdd Gobaith Cymru i lansio ein Gwersi Nofio Cymraeg yn Wrecsam.
Mae ein gwersi nofio’n hygyrch i bawb
Rydym yn gweithio’n galed i wneud yn siŵr bod ein canolfan yn darparu’r cyfleusterau nofio gorau posibl. Mae hyn yn cynnwys sicrhau fod gan ein pyllau fynediad hygyrch, gan gynnwys ramp a hoist ble mae’n bosibl. Er mwyn sicrhau eich diogelwch, caiff ein pyllau eu gwarchod gan achubwyr bywyd cyfeillgar a chymwysedig iawn.
Mewn Partneriaeth gyda Nofio Cymru
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Nofio Cymru i ddarparu Rhaglen Dysgu Nofio o ansawdd uchel i bob oed a gallu.
Mae ein hyfforddwyr yn brofiadol ac yn gwbl hyfforddedig i ddarparu Rhaglen Dysgu Nofio, Nofio Cymru ac maen nhw wedi cael gwiriad ehangach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Cofnodi cynnydd eich plentyn
Mae porth ar-lein gennym ble y gallwch gofnodi cynnydd gwersi nofio eich plentyn a gweld ble mae angen gwella i wneud cynnydd drwy’r tonnau!
Beth arall sydd ar gael yng Nghanolfan Hamdden a Gweithgareddau Byd Dŵr?
Cyfleusterau Newid a Chawodydd
Mae ein cyfleusterau newid a chawodydd glân a hygyrch yn cynnig ciwbicl newid i unigolion, teuluoedd a grwpiau.
Nofio Am Ddim
Gall pob un o’n plant sy’n Dysgu Nofio fynd ati i nofio AM DDIM ledled Wrecsam yn ystod yr adegau nofio cyhoeddus i gyd.
Siop
Mae stoc o’r holl hanfodion sydd eu hangen ar gyfer eich gwersi nofio, megis gwisgoedd nofio, cewynnau nofio, gogls a chymhorthion nofio eraill ar gael yn y siop.
Lluniaeth
Ar ôl sesiwn nofio, beth am ddod i fwynhau paned neu fyrbryd yn eich caffi hyfryd?
Pam dysgu nofio?
Mae’n lot o hwyl!
Y ffordd hawsaf i blant ddysgu sgil newydd yw trwy gael hwyl. Dylunnir ein gwersi nofio i fod yn gynhwysol, pleserus, diddorol a gwerth chweil.
Eich cadw’n ddiogel ar eich gwyliau
Ble bynnag yr ewch ar eich gwyliau, bydd gallu nofio’n arwain at gymaint o bosibiliadau ichi ac yn helpu creu atgofion gwych.
Yn cynnig hyder yn y dŵr
Mae teimlo’n ddiogel a hyderus mewn pwll nofio’n ychwanegu at y profiad, ac yn galluogi plant i chwarae’n hyderus gyda’u ffrindiau a’u teulu.
Mae’n un o sgiliau bywyd
Mae dysgu nofio’n rhoi’r sgiliau a’r cymhelliant sydd eu hangen i arwain ffordd o fyw iach ac egnïol trwy nofio neu weithgareddau dŵr.
Beth mae ein cwsmeriaid yn ei ddweud amdanom ni
Rwy’n hapusach ynof fy hunan, mae gen i fwy o hyder ac mae’r gampfa yn anhygoel.
Debra D
Fe fyddwn yn argymhell unrhyw un o’r dosbarthiadau ym Myd Dŵr, mae llawer i ddewis ohonynt.
Fran K
Mae’r dosbarthiadau yn wych, mae’r gampfa mor braf a’r holl bobl yn hyfryd.
Michelle J
Am flynyddoedd, rwyf wedi cael anawsterau gyda’m pwysau, sydd wedi achosi problemau hyder. Pan gyrhaeddais 21 stôn, penderfynais mai digon oedd….
Calum R
Cwestiynau Cyffredin
Nag oes, mae ystod o gynlluniau aelodaeth gwych ar gael, ond hefyd gallwch dalu fesul gwers.
Ydy, mae sesiynau nofio cyhoeddus ar gael bob dydd bron, ond byddai’n ddoeth gwirio’r amserlen am ragor o fanylion.
Mae’r gampfa ar agor 6:30-21:30 Dydd Llun - Iau, 6:30-21:00 ar ddydd Gwener, a 9-17:00 ar y penwythnos
Oes, mae digonedd o lefydd parcio ar gael, a gellir parcio am ddim ar ôl 11am.
Oes, mae dros 60 o ddosbarthiadau ar gael o raglen amrywiol sy’n cynnwys Les Mills. O BODYPUMP a Metafit i Aqua and Mature Movers, mae rhywbeth at ddant pawb, ac mae’r tîm o hyfforddwyr elît ar gael i’ch helpu ar eich taith.
Cliciwch y botwm ‘Gwneud Ymholiad Nawr’ neu cysylltwch â’r Byd Dŵr am ragor o wybodaeth. Byddwn yn cymryd ychydig o fanylion, ac wedyn byddwn yn asesu pa wersi nofio sydd mwyaf addas, yn seiliedig ar oedran a gallu.
Oes, defnyddir yr Ap MyWellness ar gyfer y gampfa a sesiynau ymarfer grŵp a byddwn yn lansio ap newydd yn y dyfodol agos!
Ydym, mae’r dosbarthiadau Dysgu Nofio hynod boblogaidd ar gael i bobl o bob gallu. Ceir mwy o fanylion yma.
Gallwch, gellir cerdded yma mewn ychydig o funudau o Orsaf Fysiau Wrecsam.
Oes, Mae’r caffi Costa yn gweini diodydd poeth, diodydd oer, hufen iâ, brechdanau, opsiynau iachus a llawer mwy.
Mae’r cynlluniau Aelodaeth Iau yn dechrau o 11 oed. Gall pobl o bob oed ddefnyddio’r pwll, ond byddwn yn arfer cymarebau oedolyn:plant.
Mae’r prif bwll yn mesur 25 metr o hyd x 12.5 metr o led. Hefyd mae pwll llai ar gyfer dysgwyr yma.
Byddwn yn annog pawb i ddysgu ar gyflymder sy’n addas iddyn nhw. Mae rhai dechreuwyr yn naturiol yn fwy hyderus yn y dŵr, a hwyrach y byddant yn gwneud cynnydd yn gyflymach. Mae eraill yn arafach wrth ddysgu sgiliau newydd, ond yn eithaf aml, maent yn gallu datblygu’n nofwyr cryfach a mwy medrus.
Sylabws cenedlaethol a luniwyd gan Nofio Cymru yw hwn i gynorthwyo a chefnogi cyflenwi gwersi nofio. Gellir dysgu rhagor am fframwaith Nofio Cymru yma.
Cynhelir ein holl wersi nofio yng Nghanolfan Hamdden a Gweithgareddau Byd Dŵr, Stryd Holt, Wrecsam, LL13 8DH. Gallwch archebu gwersi nofio yn eich chwaer-leoliadau yn Wrecsam, Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Gwyn Evans yng Ngwersyllt ac yng Nghanolfan Hamdden a Gweithgareddau’r Waun.
Heb ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch?
Os ydych angen help gydag unrhyw beth, ewch i’n canolfan gymorth neu cysylltwch â ni!
Gwersi Nofio Wrecsam yn y Gymraeg
Mae pob ffurflen ymholiad nofio ar ein gwefan yn gofyn am ddewis iaith. Mae'r data hwn yn cael ei gasglu ac mae wedi’i ddangos yma.