Beth yw Sero Net?

Beth yw Sero Net?

Mae’r ymadrodd Sero Net yn golygu lleihau’r carbon sy’n cael ei allyrru i’r awyrgylch mor isel â phosibl, gydag unrhyw allyriadau sy’n weddill, na ellir eu hosgoi, yn cael eu gwrthbwyso trwy gael gwared ar a storio carbon yn barhaol o’r awyrgylch.   

Ein nod yw cyrraedd pwynt lle bydd ein gweithrediadau’n arwain at beidio ag ychwanegu cyfraniad at gynhesu byd-eang. Ar gyfer canolfan hamdden, mae cyrraedd sero net yn golygu cymryd camau sylweddol i leihau effaith amgylcheddol ein gweithrediadau, yn benodol o ran allyriadau carbon.

Mae hyn yn golygu defnyddio arferion sy’n effeithlon o safbwynt ynni, defnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy a gweithredu rhaglenni i reoli ein hadnoddau mewn ffordd effeithlon a chynaliadwy, hyrwyddo egwyddorion economi cylchol ac opsiynau trafnidiaeth cynaliadwy.

Rydym yn parhau i leihau allyriadau ar draws ein holl weithrediadau, gan arwain at leihad o dros 6000 tunnell o garbon ers gwaelodlin portffolio 2019.

Pam fod hyn yn bwysig i ganolfannau hamdden?

Pam fod hyn yn bwysig i ganolfannau hamdden?

Gall canolfannau hamdden fod yn gyfrifol am hyd at 40% o ôl troed carbon cyngor. O ganlyniad, rydym yn cefnogi ein partneriaid mewn awdurdodau lleol i wireddu eu targedau sero net. Mae ein diwylliant cynaliadwyedd cadarn yn dangos ein hymrwymiad i weithio gyda’n partneriaid, cwsmeriaid ac yn bwysicach na dim, ein cydweithwyr i fodloni ein targedau uchelgeisiol.

Hybiau cymunedol yw ein canolfannau, a thrwy dderbyn arferion sero net, mae ein canolfannau a’n cydweithwyr yn arwain trwy esiampl ac yn ysbrydoli ein cwsmeriaid a’n cymunedau i fabwysiadu arferion cynaliadwy ac ymuno â ni ar ein taith i Sero Net (i leihau ein hôl-troed carbon a lleihau cymaint â phosibl ein heffaith ar yr amgylchedd).

Ivan Horsfall Turner | Freedom Leisure's CEO

Ivan Horsfall Turner | Freedom Leisure's CEO

“Drwy’r ymrwymiadau hyn, rydyn ni’n gobeithio cyfrannu at y gwaith o leihau allyriadau a chyfrannu at y targed byd-eang. Rydyn ni’n cydnabod na allwn wneud hyn ar ein pennau ein hunain ac rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi a gweithio ochr yn ochr â’n partneriaid yn y sector cyhoeddus, ein cyflenwyr a’n cwsmeriaid i sicrhau ein bod yn cyrraedd y nod gyda’n gilydd.”

Mae’r amgylchedd yn rhan ganolog o’n gwaith

Mae’r amgylchedd yn rhan ganolog o’n gwaith

Mae ein busnes craidd o gefnogi ffyrdd o fyw iach yn mynd tu hwnt i nodau unigolion ar gyfer gweithgaredd corfforol, ac yn ymestyn i’n cymunedau a’r amgylchedd.  Felly mae’n dod yn fwyfwy hollbwysig inni wneud popeth o fewn ein gallu i chwarae ein rhan wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd byd-eang.

Rydym yn cymryd camau rhagweithiol tuag at gynaliadwyedd sy’n debygol o arwain at amgylchedd mwy gwydn ac iachach sy’n hanfodol er mwyn hyrwyddo llesiant corfforol a meddyliol ymhlith ymwelwyr.