Dechreuwch ar eich taith o fod yn egnïol gyda 7 diwrnod o ymarfer corff am £14.99 yn unig!

Wrth i'r Gaeaf ddod i ben a’r teimlad bod gwanwyn ar y ffordd, eich canolfan Freedom Leisure lleol yw’r lle perffaith i gymdeithasu, cael hwyl a bod yn fwy egnïol.  

Gallwch gymryd rhan mewn dosbarthiadau ymarfer corff grŵp, nofio yn y pwll neu wneud sesiwn yn y gampfa - chi biau'r dewis! 

Llenwch y ffurflen ymholiad isod i gofrestru ar gyfer eich mynediad 7 diwrnod a bydd ein timau canolfan yn cysylltu â chi i roi cychwyn arni.

Mae telerau, amodau a chyfyngiadau yn berthnasol, gweler isod.

1
2
3

I ddechrau, rhowch eich lleoliad

Mae gennym ni rywbeth at ddant pawb

Telerau ac Amodau yn berthnasol

  • Ar ôl talu am eich 7 Diwrnod o fynediad, byddwch yn derbyn cerdyn aelodaeth. Bydd mynediad yn cael ei alluogi am 7 diwrnod yn olynol o'r dyddiad talu, nid o'ch ymweliad cyntaf. Y diwrnod olaf i brynu bydd 23 Mawrth 2025 a bydd pob cerdyn yn dod i ben ar ôl 7 diwrnod.
  • Mae’r cynnig yn ddilys yn unig ar gyfer cwsmeriaid newydd a rhai sy'n dychwelyd yn unig. Fodd bynnag, gall cwsmeriaid presennol atgyfeirio ffrindiau a theulu.
  • Bydd y cynnyrch a'r gwasanaethau a gynigir yn ystod eich 7 diwrnod o fynediad yn amrywio rhwng canolfannau. Mae pob sesiwn a dosbarth yn amodol ar argaeledd ac ni ellir eu gwarantu. Ni wneir unrhyw ad-daliadau am ddiffyg defnydd.
  • Gall telerau ac amodau a gwaharddiadau lleol eraill fod yn berthnasol, gofynnwch i aelod o'r tîm
  • Cynigion yn dod i ben: 23 Mawrth 2025

Gyda'r bargeinion a'r cynigion campfa gwych hyn, gallwch:

Talu llai am nofio

Os yw’n well gennych nofio na chodi pwysau, bydd ein cynigion aelodaeth yn rhoi mynediad i chi at amrywiaeth o byllau nofio Freedom Leisure i berffeithio eich arddull nofio, cymryd rhan mewn aerobeg dŵr neu ymlacio ar ôl gwaith yn y pwll.

Talu llai am ymarfer corff

Mae pob gym Freedom Leisure yn ddelfrydol ar gyfer gweithio ar eich amcanion ffitrwydd, hyfforddi a magu cryfder yn y cyhyrau mewn amgylchedd cefnogol ac ysgogol. Mae ein tîm proffesiynol cymwys o safon uchel yr un mor angerddol ag ydych chi, a byddant yn sicrhau eich bod chi’n cael y canlyniadau gorau gan ddefnyddio offer o’r radd flaenaf.

Talu llai i ymuno â dosbarthiadau

Mae llawer o’n canolfannau’n cynnig amrywiaeth eang o ddosbarthiadau i’ch helpu i gadw’n ffit a gofalu ar ôl eich llesiant corfforol a meddyliol mewn amgylchedd cyfeillgar a chymdeithasol. O’r holistig i HIIT, a phopeth rhyngddynt, rydyn ni’n hyderus y dewch o hyd i’r dosbarth cywir ar eich cyfer chi.

Talu llai am chwaraeon dan do ac yn yr awyr agored

Mae ein cyrtiau, neuaddau chwaraeon a meysydd chwarae o ansawdd uchel ar gael ar gyfraddau ffantastig ar ddisgownt i’r sawl sy’n chwilio am rywle i chwarae sboncen gyda ffrind ar ôl gwaith neu gicio pêl gyda ffrindiau fore Sadwrn.

Pam dewis Freedom Leisure

Wrth fanteisio ar gynigion grêt yn y gym y mis hwn, byddwch yn mwynhau mynediad at amrywiaeth o gyfleusterau ffitrwydd yn eich ardal. O gyrtiau tenis dan lifoleuadau, i gym o’r radd flaenaf a llawer o gyfleusterau eraill, mae gan ein canolfannau rywbeth i bawb. Cwblhewch y manylion ar y ffurflen uchod neu cysylltwch â’ch canolfan leol am ragor o wybodaeth!