Dechreuwch ar eich taith o fod yn egnïol gyda 7 diwrnod o ymarfer corff am £14.99 yn unig!
Wrth i'r Gaeaf ddod i ben a’r teimlad bod y gwanwyn ar y ffordd, eich canolfan Freedom Leisure lleol yw’r lle perffaith i gymdeithasu, cael hwyl a bod yn fwy egnïol.
Gallwch gymryd rhan mewn dosbarthiadau ymarfer corff grŵp, nofio yn y pwll neu wneud sesiwn yn y gampfa - chi biau'r dewis!
Llenwch y ffurflen ymholiad isod i gofrestru ar gyfer eich mynediad 7 diwrnod a bydd ein timau canolfan yn cysylltu â chi i roi cychwyn arni.
Mae telerau, amodau a chyfyngiadau yn berthnasol, gweler isod.
Mae gennym ni rywbeth at ddant pawb
Dewch i weld ein campfeydd
Mae ymweliad â champfa yn hybu ffitrwydd, yn gwella iechyd, yn lleihau straen, yn cynyddu egni, yn adeiladu cryfder, yn gwella hwyliau ac yn cefnogi wrth reoli pwysau. Welwn ni chi cyn bo hir!
Beth am nofio ymlaciol?
Mae nofio yn gwella iechyd cardiofasgwlaidd, yn adeiladu cryfder y cyhyrau, yn gwella hyblygrwydd, yn lleihau straen, yn hybu hwyliau ac yn darparu ymarfer corff llawn. Ffansi dip?
Dosbarth Ymarfer Corff
Mae dosbarthiadau ymarfer corff grŵp yn cynnig cymhelliant, rhyngweithio cymdeithasol, cyfarwyddyd arbenigol, amrywiaeth ac amgylchedd hwyliog a chefnogol. Iawn i ni archebu lle i chi?
Telerau ac Amodau yn berthnasol
- Ar ôl talu am eich 7 Diwrnod o fynediad, byddwch yn derbyn cerdyn aelodaeth. Bydd mynediad yn cael ei alluogi am 7 diwrnod yn olynol o'r dyddiad talu, nid o'ch ymweliad cyntaf. Y diwrnod olaf i brynu bydd 23 Mawrth 2025 a bydd pob cerdyn yn dod i ben ar ôl 7 diwrnod.
- Mae’r cynnig yn ddilys yn unig ar gyfer cwsmeriaid newydd a rhai sy'n dychwelyd yn unig. Fodd bynnag, gall cwsmeriaid presennol atgyfeirio ffrindiau a theulu.
- Bydd y cynnyrch a'r gwasanaethau a gynigir yn ystod eich 7 diwrnod o fynediad yn amrywio rhwng canolfannau. Mae pob sesiwn a dosbarth yn amodol ar argaeledd ac ni ellir eu gwarantu. Ni wneir unrhyw ad-daliadau am ddiffyg defnydd.
- Gall telerau ac amodau a gwaharddiadau lleol eraill fod yn berthnasol, gofynnwch i aelod o'r tîm
- Cynigion yn dod i ben: 23 Mawrth 2025
Gyda'r bargeinion a'r cynigion campfa gwych hyn, gallwch:
Talu llai am nofio
Os yw’n well gennych nofio na chodi pwysau, bydd ein cynigion aelodaeth yn rhoi mynediad i chi at amrywiaeth o byllau nofio Freedom Leisure i berffeithio eich arddull nofio, cymryd rhan mewn aerobeg dŵr neu ymlacio ar ôl gwaith yn y pwll.
Talu llai am ymarfer corff
Mae pob gym Freedom Leisure yn ddelfrydol ar gyfer gweithio ar eich amcanion ffitrwydd, hyfforddi a magu cryfder yn y cyhyrau mewn amgylchedd cefnogol ac ysgogol. Mae ein tîm proffesiynol cymwys o safon uchel yr un mor angerddol ag ydych chi, a byddant yn sicrhau eich bod chi’n cael y canlyniadau gorau gan ddefnyddio offer o’r radd flaenaf.
Talu llai i ymuno â dosbarthiadau
Mae llawer o’n canolfannau’n cynnig amrywiaeth eang o ddosbarthiadau i’ch helpu i gadw’n ffit a gofalu ar ôl eich llesiant corfforol a meddyliol mewn amgylchedd cyfeillgar a chymdeithasol. O’r holistig i HIIT, a phopeth rhyngddynt, rydyn ni’n hyderus y dewch o hyd i’r dosbarth cywir ar eich cyfer chi.
Talu llai am chwaraeon dan do ac yn yr awyr agored
Mae ein cyrtiau, neuaddau chwaraeon a meysydd chwarae o ansawdd uchel ar gael ar gyfraddau ffantastig ar ddisgownt i’r sawl sy’n chwilio am rywle i chwarae sboncen gyda ffrind ar ôl gwaith neu gicio pêl gyda ffrindiau fore Sadwrn.
Pam dewis Freedom Leisure
Wrth fanteisio ar gynigion grêt yn y gym y mis hwn, byddwch yn mwynhau mynediad at amrywiaeth o gyfleusterau ffitrwydd yn eich ardal. O gyrtiau tenis dan lifoleuadau, i gym o’r radd flaenaf a llawer o gyfleusterau eraill, mae gan ein canolfannau rywbeth i bawb. Cwblhewch y manylion ar y ffurflen uchod neu cysylltwch â’ch canolfan leol am ragor o wybodaeth!