Ewch ati gyda’n cynigion aelodaeth Gorffennaf! Ymunwch â’n cymuned iach fis Gorffennaf hwn a dechrau arni gyda’n cynigion 3 mis am ddim**!
Wrth fanteisio ar gynigion gwych aelodaeth Ionawr, cewch fwynhau defnyddio amrywiaeth eang o gyfleusterau a dosbarthiadau ffitrwydd ffantastig Freedom Leisure yn eich ardal.
Cwblhewch y ffurflen gysylltu isod i gofrestru eich diddordeb.
This promotion is currently not live
EWCH ATI’N GYFLYM, DIM OND AM GYFNOD CYFYNGEDIG FYDD Y CYNIGION HYN AR GAEL!
**Aelodaeth flynyddol a delir ar unwaith
Talu llai am nofio
Os yw’n well gennych nofio na chodi pwysau, bydd ein cynigion aelodaeth yn rhoi mynediad i chi at amrywiaeth o byllau nofio Freedom Leisure i berffeithio eich arddull nofio, cymryd rhan mewn aerobeg dŵr neu ymlacio ar ôl gwaith yn y pwll.
Talu llai am ymarfer corff
Mae pob gym Freedom Leisure yn ddelfrydol ar gyfer gweithio ar eich amcanion ffitrwydd, hyfforddi a magu cryfder yn y cyhyrau mewn amgylchedd cefnogol ac ysgogol. Mae ein tîm proffesiynol cymwys o safon uchel yr un mor angerddol ag ydych chi, a byddant yn sicrhau eich bod chi’n cael y canlyniadau gorau gan ddefnyddio offer o’r radd flaenaf.
Talu llai i ymuno â dosbarthiadau
Mae llawer o’n canolfannau’n cynnig amrywiaeth eang o ddosbarthiadau i’ch helpu i gadw’n ffit a gofalu ar ôl eich llesiant corfforol a meddyliol mewn amgylchedd cyfeillgar a chymdeithasol. O’r holistig i HIIT, a phopeth rhyngddynt, rydyn ni’n hyderus y dewch o hyd i’r dosbarth cywir ar eich cyfer chi.
Talu llai am chwaraeon dan do ac yn yr awyr agored
Mae ein cyrtiau, neuaddau chwaraeon a meysydd chwarae o ansawdd uchel ar gael ar gyfraddau ffantastig ar ddisgownt i’r sawl sy’n chwilio am rywle i chwarae sboncen gyda ffrind ar ôl gwaith neu gicio pêl gyda ffrindiau fore Sadwrn.
Pam dewis Freedom Leisure
Wrth fanteisio ar gynigion grêt yn y gym y mis hwn, byddwch yn mwynhau mynediad at amrywiaeth o gyfleusterau ffitrwydd yn eich ardal. O gyrtiau tenis dan lifoleuadau, i gym o’r radd flaenaf a llawer o gyfleusterau eraill, mae gan ein canolfannau rywbeth i bawb. Cwblhewch y manylion ar y ffurflen uchod neu cysylltwch â’ch canolfan leol am ragor o wybodaeth!
Yr hyn y mae ein cwsmeriaid presennol yn ei ddweud amdanom ni
Gwasanaeth gwych gyda thâl a chwarae ar gael i bawb.
Sandra D
Fe fyddwn yn argymhell unrhyw un o’r dosbarthiadau ym Myd Dŵr, mae llawer i ddewis ohonynt.
Fran K
Ers ymuno â Queensway rydw i wastad wedi cael fy ngwneud i deimlo fel rhan o deulu..
Ben C
We organise a wide variety of sporting programmes in partnership with local clubs and sponsor local talent..
Mary A.
Beth sy’n gynwysedig mewn aelodaeth Freedom Leisure?
Rydyn ni’n cynllunio ein haelodaeth o gwmpas y cymunedau a wasanaethwn felly gallwch ddisgwyl amrywiaeth eang o becynnau aelodaeth unigryw sy’n bwrpasol i bob canolfan. Dyma flas o’r hyn sy’n cael ei gynnig:
- Aelodaeth Ddiderfyn – mynediad at nifer o ganolfannau Freedom Leisure yn eich ardal
- Aelodaeth i’r Teulu – cadwch yn actif gyda’r teulu!
- Aelodaeth Hŷn – cyfraddau wedi eu disgowntio ar gyfer pobl hŷn
- Aelodaeth i Fyfyrwyr – cyfraddau wedi eu disgowntio ar gyfer myfyrwyr mewn addysg lawn amser
- Aelodaeth Gorfforaethol – cyfraddau wedi’u disgowntio ar gyfer ein partneriaid corfforaethol, gan gynnwys pob gweithiwr allweddol a gweithwyr argyfwng
Sut i gael gostyngiad i aelodaeth gym
Mae hyn yn ddigon hawdd! Cwblhewch y ffurflen uchod neu gysylltu â’ch canolfan leol heddiw a dechrau ar eich taith ffitrwydd yn 2023.
Mae pob cynnig yn amodol ar yr hyn sydd ar gael yn lleol.
- Cynigion ar gael am gyfnod cyfyngedig yn unig, gwiriwch gyda’ch canolfan leol
- Mae’r gweithgareddau’n amrywio ac yn amodol ar argaeledd
- 16+ oed
- Gall prisiau amrywio
- Mae’n bosibl y bydd telerau ac amodau eraill yn berthnasol
Cwestiynau Cyffredin
Mae 100 safle gan Freedom Leisure ledled Cymru, Canolbarth a De Lloegr, felly dydych chi fyth yn bell i ffwrdd oddi wrth un o’n canolfannau. Ewch i dudalen dod o hyd i ganolfan ar ein gwefan, yna nodwch eich tref, dinas neu god post i weld yr holl ganolfannau lleol yn eich ardal.
Os wnaethoch golli allan ar gynigion gym y Flwyddyn Newydd, does dim angen digaloni! Gallwch barhau i fanteisio ar rai o’r pecynnau aelodaeth grêt sydd ar gael. Cysylltwch â’ch canolfan Freedom Leisure leol am fanylion a chofiwch edrych allan am bob disgownt a hyrwyddiad ar ein gwefan.
Mae llawer o ganolfannau Freedom Leisure yn cynnig pecynnau ffantastig Aelodaeth i Fyfyrwyr sy’n cynnwys cyfraddau wedi’u disgowntio ar amrywiaeth eang o gyfleusterau. Cysylltwch â’ch canolfan leol i ddarganfod rhagor.
Heb ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch?
Os ydych angen help gydag unrhyw beth, ewch i’n canolfan gymorth neu cysylltwch â ni!